Cyhuddo Clwb Criced Caeriw o ddwyn anfri ar y gamp
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Criced Caeriw yn Sir Benfro wedi'i gyhuddo o ddwyn anfri ar y gamp wedi iddyn nhw gael eu coroni'n bencampwyr y sir mewn amgylchiadau dadleuol.
Yng ngêm ola'r tymor yn erbyn Creseli fe wnaeth Caeriw ddod â'u batiad i ben yn gynnar er mwyn rhwystro Creseli rhag cael y pwyntiau bonws angenrheidiol i'w pasio yn y tabl.
Creseli enillodd y gêm, ond Caeriw gafodd eu coroni'n bencampwyr ym mis Awst.
Bydd clwb Caeriw a'u capten Brian Hall yn wynebu achos disgyblu ar 26 Medi.
Fe wnaeth Clwb Criced Sir Penfro - sy'n gyfrifol am weithredu rheolau'r gamp - sefydlu pwyllgor i ymchwilio'r mater.
Cwynion
Dywedodd y gynghrair mewn datganiad: "Fe wnaeth Clwb Criced Sir Penfro dderbyn sawl cwyn ysgrifenedig am ymddygiad clwb criced Caeriw a'u capten Brian Hall wedi'r gêm yn erbyn Creseli.
"Yn unol â'r drefn... fe wnaeth is-bwyllgor disgyblu gwrdd ar ddydd Llun, 11 Medi. O ganlyniad i'r cyfarfod mae Caeriw wedi cael eu cyhuddo o ddwyn anfri ar glwb criced y sir.
"Mae Mr Hall wedi ei gyhuddo o fethu yn ei ddyletswydd fel capten i sicrhau fod y gêm yn cael ei chwarae yn ysbryd criced."
Mae clwb Caeriw wedi gwrthod ymateb i'r cyhoeddiad am y gwrandawiad disgyblu.
Straeon perthnasol
- 4 Medi 2017
- 28 Awst 2017