Morgannwg â gobaith am fuddugoliaeth
- Cyhoeddwyd

Y wicedwr Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg ddydd Iau
Mae gan Forgannwg fantais o 175 rhediad dros Sir Northants ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.
Roedd gan yr ymwelwyr fantais o 103 wedi'r batiad cyntaf, ond ddydd Iau daeth cyfraniadau cryf gan Chris Cooke (69), Kiran Carlson (44), Marchant De Lange (39) a Craig Meschede (34).
Pan ddaeth ail fatiad Morgannwg i ben ar 320, roedden nhw wedi gosod nod o 218 i Northants i ennill.
Cyn i'r chwarae ddod i ben fe gipiodd Michael Hogan wiced Ben Duckett gan adael yr ymwelwyr ar 42 am 1.
Fe fydd angen perfformiad da gan fowlwyr Morgannwg ddydd Gwener os am gael y fuddugoliaeth.
Straeon perthnasol
- 12 Medi 2017