Gwyddonwyr yn Aberystwyth yn dilyn diwedd taith Cassini

  • Cyhoeddwyd
CassiniFfynhonnell y llun, NASA/JPL-CALTECH/ASI/CORNELL
Disgrifiad o’r llun,
Lluniau Cassini o lyn ar Titan, un o leuadau'r blaned Sadwrn

Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn hynt y llong ofod Cassini wrth iddi nesáu at ddiwedd ei thaith ugain mlynedd i'r blaned Sadwrn.

Mae'r Athro Manuel Grande, pennaeth o Adran Ffiseg Systemau Solar Prifysgol Aberystwyth, yn gyd-ymchwilydd ar dri teclyn gwyddonol ar fwrdd y llong ofod sydd ar fin plymio i atmosffer Sadwrn ddydd Gwener.

Cafodd Cassini a Huygens - rhan o gynllun yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd - eu hanfon i'r gofod o Cape Canaveral ym mis Hydref 1987, ac fe gymerodd hi saith mlynedd iddyn nhw gyrraedd Sadwrn.

Glaniodd Huygens yn llwyddiannus ar Titan, un o leuadau Sadwrn, yn 2005.

Un o amganion taith Cassini, yw i ddadansoddi strwythyr ac ymddygiad dynamig cylchoedd Sadwrn, ac mae wedi ei henwi ar ol y Giovanni Domenico Cassini, a ddarganfyddodd y cylchoedd.

Disgrifiad,

Dr Geraint Jones yn trafod diwedd taith lloeren Cassini i blaned Sadwrn

Mae'r Athro Grande wedi bod yn rhan o daith Cassini o'r cyfnod cynnar.

Cyfrannodd at adeiladu Sbectromedr Plasma Cassini, a elwir yn CAPS, a'r Dadansoddwr Llwch Cosmig - CDA.

"Mae CAPS yn mesur nodweddion y gofod o amgylch Sadwrn ac o gwmpas lleuadau Sadwrn," meddai.

"Mae hyn yn dweud wrthym am ddeinameg y gronynnau sy'n mynd i mewn i'r aurora ar Sadwrn - ffenomen debyg i oleuadau'r gogledd a welir ger y pegynau ar y ddaear.

"Mae'r data a gasglwyd yn ystod taith Cassini wedi newid ein dealltwriaeth o'r bydysawd."