Cwmni bwyd i greu 200 o swyddi yng Nglannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni prydau parod o Lannau Dyfrdwy yn bwriadu ehangu eu busnes, gan greu 200 o swyddi newydd.
Daw'r cyhoeddiad wedi i gwmni KK Fine Foods ddechrau ar bartneriaeth newydd gyda chwmni o Wlad Belg.
Bydd KK Fine Foods, sy'n cyflogi tua 400 o bobl, yn gweithio gyda chwmni Ter Beke Food Group i ehangu eu cyflenwad o brydau parod wedi'u rhewi i'r farchnad fwyd.
Mae KK bellach yn datblygu uned 60,000 troedfedd sgwâr newydd wrth ymyl y safle presennol ar stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Dywedodd Samir Edwards, rheolwr gyfarwyddwr KK Fine Foods: "Y peth cyffrous i mi a'r tîm yw ein bod ni'n gallu parhau i wasanaethu anghenion ein cwsmeriaid presennol gan gyflwyno manteision newydd i'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig dros y 12 mis nesaf.
"Bydd gweithio gyda Ter Beke yn ein galluogi i fuddsoddi yn ein busnes craidd, gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r profiad y maent wedi'i adeiladu dros nifer o flynyddoedd o fewn y sector."