Dynes 21 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod dynes 21 oed bellach wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Benfro yr wythnos diwethaf.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar ffordd yr A478 ger Llandysilio am 08:30 ddydd Mawrth, 5 Medi.
Roedd Anwen Heledd Thomas, yn wreiddiol o ardal Hendy-gwyn, yn gyrru car Ford KA pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu oedd yn teithio ar y ffordd ar y pryd, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.