Gwrthdrawiad yn cau rhan o'r A487 yng Ngheredigion

a487 Image copyright Google
Image caption Yr A487 rhwng Llanarth a Synod Inn

Bu rhan o ffordd yr A487 ar gau yng Ngheredigion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Llanarth a Synod Inn fore Gwener. Cafodd yr heddlu eu galw am 07:45.

Dywedodd yr heddlu mai un cerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad, ac fe gafodd y gyrrwr ei gludo i'r ysbyty ar driniaeth.

Cafodd hyd at 3.2km o'r ffordd ei chau gan yr heddlu, ond mae bellach wedi ailagor.

Deellir bod dwy injan dân a cherbyd ambiwlans wedi bod ar y safle yn ogystal â'r heddlu.