Gostwng tollau Pontydd Hafren ym mis Ionawr 2018

Hafren Image copyright Thinkstock

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd cost tollau Pontydd Hafren i geir yn gostwng am y tro cyntaf erioed ym mis Ionawr.

Daw hynny wedi i'r llywodraeth eisoes gyhoeddi y bydd y gost yn cael ei diddymu yn gyfan gwbl erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, pan fydd y pontydd yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Bydd ceir yn talu £5.60 yn hytrach na £6.70 i groesi, gyda'r uchafswm ar gyfer y cerbydau mwyaf yn gostwng o £20 i £16.70.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y byddai lleihau'r tollau yn hwb i "fusnesau, teithwyr a thwristiaid".

'Rhwystr economaidd'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alun Cairns: "Blaenoriaeth" i ostwng tollau Pontydd Hafren

Ar hyn o bryd mae tua 25 miliwn o deithiau dros y ddwy bont bob blwyddyn.

Consortiwm preifat sy'n berchen ar ac yn rhedeg y pontydd, ond bydd yn dychwelyd i berchnogaeth Asiantaeth Priffyrdd Lloegr unwaith y bydd y gost o adeiladu'r ail bont, gafodd ei agor yn 1996, wedi'i ad-dalu.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod ymchwil wedi awgrymu y byddai cael gwared ar y tollau yn rhoi hwb o £100m i economi Cymru, ac y byddai'n arbed £1,400 y flwyddyn i deithwyr cyson.

Erbyn diwedd 2018 mae disgwyl i'r tollau - sydd wedi cael eu beirniadu gan yrwyr a busnesau ers peth amser - ddod i ben yn llwyr.

Yn y cyfamser, o 8 Ionawr 2018, bydd ceir yn talu £5.60 i groesi'r bont, gyda faniau yn talu £11.20, a lorïau a bysus mwy yn talu £16.70.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r tollau wedi'u beirniadu gan yrwyr a busnesau ers peth amser

"Ers sawl blwyddyn, mae'r tollau ar Bontydd Hafren wedi bod yn rhwystr economaidd a symbolaidd i lewyrch Cymru yn y dyfodol," meddai Mr Cairns, fydd yn gwneud y cyhoeddiad mewn cyfarfod CBI Cymru yng Nghasnewydd.

"Bydd ein penderfyniad ni i ostwng cost y tollau - cyn eu diddymu'n gyfan gwbl - yn torri costau ar gyfer busnesau, teithwyr a thwristiaid, ac yn hwb i swyddi a masnach yng Nghymru a de orllewin Lloegr.

"Mae hyn yn arwydd arall fod Cymru yn agored i fusnes ac o ymrwymiad Llywodraeth y DU i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Cymru fel rhan o Deyrnas Unedig gref."

Ychwanegodd Mr Cairns mai "her i Lywodraeth Cymru" oedd hi i benderfynu beth fyddai'n cael ei wneud am bryderon y bydd diddymu'r tollau yn arwain at dagfeydd ychwanegol ar yr M4.

"Mae hyn yn rhywbeth ble gall y Cynulliad ddangos eu bod nhw'n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae'r diffyg datblygiad yn rhwystredig ond rydym yn falch fod ateb yn dechrau amlygu ei hun."

Pynciau Cysylltiedig