Dyn wedi'i arestio ar ôl i gar daro merch 11 oed
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys bellach wedi arestio dyn wedi i ferch 11 oed gael ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Mhowys.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 16:00 ddydd Iau yn Nhrefyclo, a dywedodd yr heddlu fod y car wedi gyrru i ffwrdd heb stopio yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl cael ei tharo wrth gerdded ar hyd Ffordd Ffrydd yn y dref.
Mae hi'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn 57 oed ar amheuaeth o yrru'n beryglus a pheidio â stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd.
Mae'n parhau i fod yn y ddalfa, ac mae'r car Toyota Rav 4 oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad wedi ei feddiannu.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un welodd y digwyddiad neu sydd â gwybodaeth am y cerbyd neu'r gyrrwr i gysylltu â nhw ar 101.