Vince Cable yn 'obeithiol' er i'r Dem Rhydd golli tir
- Published
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Sir Vince Cable wedi dweud ei fod yn "obeithiol" am ddyfodol ei blaid yng Nghymru er iddi golli tir yn yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd hefyd y byddai gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru "wyneb newydd" fel arweinydd yn fuan.
Ychwanegodd Syr Vince y byddai'r blaid yn elwa o gael Kirsty Williams yn rhan o glymblaid gyda Llafur o fewn Llywodraeth Cymru.
Roedd yn siarad gyda BBC Cymru wrth i gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ddechrau yn Bournemouth.
Dewis arweinydd
Dywedodd Syr Vince wrth raglen Sunday Politics Wales bod Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Ms Williams yn gwneud "gwaith arbennig" gan osgoi camgymeriadau'r blaid mewn clymblaid ar lefel y DU, a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am gyfraniad "arbennig, cadarnhaol" y blaid mewn llywodraeth.
Fe gollodd y blaid ei hunig sedd yng Nghymru sef Ceredigion yn yr etholiad, gan hefyd golli eu harweinydd yng Nghymru, Mark Williams.
Bydd aelodau'r blaid yn dewis ei olynydd fis nesaf, a does dim rhaid i'r person hwnnw fod yn Aelod Cynulliad nac yn Aelod Seneddol.
Dywedodd Syr Vince: "Mae 'na dipyn o dir i adennill, dwi'n cydnabod hynny. Dwi wedi bod yng Nghymru ddwywaith yn yr wythnosau diwethaf, a dwi'n obeithiol.
"Mae gennym ni sylfaen gref a thraddodiad hir o weithredu o fewn gwleidyddiaeth Cymru, ac mae'n gryfder i ni fod Kirsty Williams mewn llywodraeth glymbleidiol.
"Mae hi'n llwyddo, yn cael canlyniadau da ar gyfer myfyrwyr ac yn unioni grantiau cynnal myfyrwyr gyda'r isafswm cyflog.
"Mae'n un ardal yn y DU lle 'dyn ni mewn llywodraeth ac mae hynny yn beth cadarnhaol."
Colli Ceredigion yn 'ergyd'
Fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu blaendal mewn 36 o'r 40 etholaeth yng Nghymru ym mis Mehefin, gan lwyddo i ennill llai na 5% o'r bleidlais.
"Roedd colli Ceredigion yn enwedig yn ergyd gan fod Mark yn Aelod Seneddol gwych," meddai Syr Vince.
"Fy ngwaith i ar lefel y DU yw ceisio adeiladu canran y bleidlais ac mae gan ein pobl ni yng Nghymru sylfaen gref, a grwpiau cyngor da mewn ardaloedd yn ne Cymru, Abertawe a Chaerdydd.
"'Dyn ni'n gryf iawn yn y canolbarth ac mae 'na obaith newydd yn y gogledd, fel y gwnes i ddarganfod wrth gwrdd â'n haelodau yno."
Syr Vince oedd yr Ysgrifennydd Masnach yn y llywodraeth glymbleidiol rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015.
Fe gollodd y blaid 49 o'u 57 sedd wedi hynny, a gofynnwyd i Syr Vince pa gyngor y byddai'n rhoi i Ms Williams ar sut i ymdopi gyda bod mewn clymblaid.
"Mae'n rhaid gweithio fel tîm gyda gelynion gwleidyddol, ond pan 'dych chi'n gwneud rhywbeth arbennig, cadarnhaol, mae'n rhaid gadael i'r cyhoedd wybod mai cyfraniad gan y Democratiaid Rhyddfrydol oedd hynny.
"Efallai na wnaethon ni ddigon o hynny pan oedden ni'n rhan o Lywodraeth y DU a dwi'n gwybod bod Kirsty yn gwneud hynny'n dda iawn yng Nghymru."
'Wyneb newydd'
Mae newid i reolau'r blaid yn golygu nad oes rhaid i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod yn wleidydd etholedig, dim ond eu bod wedi eu cymeradwyo fel ymgeisydd ar gyfer Cynulliad Cymru neu San Steffan.
"Bydd yna wyneb newydd a dyma'r cyfeiriad mae'r blaid am fynd," meddai Syr Vince.
"Mae Kirsty yn gwneud gwaith gwych, ond fe fyddai cyfuno ei gwaith fel arweinydd gyda bod yn weinidog gyda swydd bwysig yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn faich na allai hi barhau ag ef."