Brwydr iaith arall

Dominig Kervegant
Image caption Dydi pethau ddim yn gwella o ran statws i'r iaith Lydaweg meddai Dominig Kervegant o Lydaw sydd wedi priodi â Chymraes a magu teulu yng Nghymru

Mae'r symbol to bach yn Gymraeg yn gallu achosi cur pen i ambell un ond yn Ffrainc mae un o acenion yr iaith Lydaweg wedi creu dipyn o stŵr ar ôl achos llys diweddar.

Er bod y Gymraeg a'r Llydaweg yn dod o'r un gwreiddyn ac yn rhannu hanes tebyg mae sefyllfa'r ieithoedd heddiw yn wahanol iawn i'w gilydd yn ôl dau sy'n siarad y ddwy iaith.

Mae Gwawr Davalan a Dominig Kervegant yn ymateb i adroddiad am ddyfarniad barnwr a wrthododd gadael i gwpl roi'r enw Llydewig Fañch i'w mab.

Y broblem, yn ôl y barnwr, yw nad yw'r nod tilde (~) uwchben yr 'n' yn bodoli yn y Ffrangeg, a Ffrangeg yw unig iaith swyddogol Ffrainc.

Mae'r penderfyniad yn "crisialu'r agwedd weriniaethol sydd gen Ffrainc tuag at yr iaith Lydewig" meddai Gwawr Davalan o Ddinas Mawddwy sydd wedi byw yn Llydaw ac sy'n briod â Llydäwr.

"Mae'n hollol warthus. Mae'r peth yn gwbl hurt inni yng Nghymru," meddai.

"Mae'n anodd amgyffred, ond mae'r barnwr yn barnu bod yr hogyn bach yn methu cael ei alw'n Fañch.

"Yr 'n' efo tilde oedd yn cael ei weld yn anffrengig... ond mae 'na enghreifftiau ohono mewn dogfennau canoloesol.

"Dyma beth mae'r Llydawyr a'r iaith Lydaweg yn gorfod ei wynebu bob dydd - dyna ydi agwedd yr awdurdodau tuag at yr iaith.

"Does 'na ddim cymhariaeth efo'r sefyllfa yng Nghymru - does 'na ddim statws swyddogol i'r iaith yno."

Mae'r Gymraeg a'r Llydaweg, ynghyd â'r Gernyweg, yn dod o'r un gangen o'r ieithoedd Celtaidd, ac yn dal i rannu nifer fawr o eiriau tebyg a hanes o frwydro fel iaith leiafriol.

Ond does gan y Llydaweg ddim statws fel iaith yn Llydaw, sy'n rhanbarth o Ffrainc, tra bod deddfau wedi eu pasio yn y DU sy'n rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.

O dros filiwn i 200,000 o siaradwyr

Mae'r iaith wedi gweld dirywiad ar raddfa anhygoel meddai'r Llydäwr Dominig Kervegant a ddaeth i Gymru ar ôl cyfarfod â'i wraig, Ffion.

Yr unig Ffrangeg roedd ei hen nain yn ei wybod oedd "beau chien" (ci del) meddai Dominig, sy'n athro Ffrangeg yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Fe gafodd Dominig gyfle i ddysgu'r Llydaweg pan oedd tua 15 oed ond mae llawer iawn o bobl Llydaw wedi bod drwy'r system addysg heb glywed gair o'r iaith yn yr ysgol, meddai.

Image copyright AFP/Getty Images
Image caption Doedd dim ysgolion Llydaweg yn Llydaw tan 1977

"Tua adeg y Rhyfel Byd Cyntaf roedd o gwmpas 1,400,000 o bobl yn siarad yr iaith. Ffigwr sy'n uwch na'r Gymraeg ar y pryd. Y Llydaweg oedd yr iaith Geltaidd oedd yn cael ei siarad fwyaf bryd hynny," meddai.

"Erbyn yr Ail Ryfel Byd roedd o gwmpas 1,000,000 yn ei siarad.

"Pan oeddwn i'n dechrau dysgu roedd 'na 800,000 a rŵan 'da ni wedi cyrraedd tua 200,000," meddai Dominig.

Cafodd y gorchymyn mai Ffrangeg fyddai'r iaith swyddogol ei gwneud gyntaf yn ystod y Chwyldro Ffrengig a chafodd ei gadarnhau yng nghyfansoddiad Ffrainc mai iaith y weriniaeth yw Ffrangeg yn 1992.

'Welsh Not'

Roedd y fersiwn Lydewig o'r Welsh Not - darn o bren oedd yn cael ei roi am wddf plant oedd yn cael eu dal yn siarad yr iaith yn yr ysgol - yn cael ei defnyddio mor ddiweddar â'r 1960au meddai Dominig.

"Yn aml iawn clogsan neu ddarn o bres neu bren oedd hi oedd yn cael ei roi o gwmpas y gwddw.

"Roedd y plant yn ceisio ei basio ymlaen. Y plentyn olaf oedd yn ei wisgo oedd yn cael ei gosbi.

"Roedd y system yn cael ei ddefnyddio yn erbyn pob iaith leiafrifol yn Ffrainc: Llydaweg, Ocitaneg, Catalaneg, Basgeg."

Yn hanesyddol, roedd pawb yn gorfod cael enwau Ffrengig yn Llydaw meddai Dominig.

"Roeddech chi i fod i ddewis yr enwau sydd ar ryw fath o restr swyddogol, doedd dim posib defnyddio enwau Llydaweg. Mae'n bosib rŵan ond mae'r ñ yna'n creu problem.

"Felly o ran statws dydi pethau ddim yn gwella.

"Mae'n wyrth bod ni'n dal yma!"

Image caption Digwyddodd y dyfarniad llys yn Kemper (Quimper), prif dref Llydaw

Mae Gwawr a'i gŵr Nicolas wedi rhoi enwau Llydewig i'w plant ac maen nhw'n ymweld yn aml â Llydaw er mwyn i'w meibion adnabod y wlad a siarad yr iaith.

Ond mae Gwawr yn dweud ei bod yn mynd yn anoddach i glywed yr iaith ar y stryd.

"Dwi'n gweld cynnydd yn faint o'r iaith dwi'n ei weld ar arwyddion a phaneli twristiaeth, ac mae'r identity Llydewig yn gryf o ran pethau fel bwyd a cherddoriaeth - maen nhw ar y blaen inni yng Nghymru yn hynny o beth.

"Ond o safbwynt clywed yr iaith yn gymunedol dydi rhywun methu cymharu gyda'n sefyllfa ni yng Nghymru."

Ond mae 'na unigolion a sefydliadau yn gweithio'n galed dros yr iaith meddai Gwawr ac mae Dominig yn credu fod y system addysg yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r Gymraeg.

Yn Llydaw roedd rhaid aros tan 1977 cyn cael yr ysgol Lydaweg gynta' drwy fudiad Diwan a gafodd ei sefydlu gan rieni.

Bellach mae'r llywodraeth hefyd yn darparu ysgolion dwyieithog ac mae ysgolion Catholig yn dysgu'r iaith ond mae'r sefyllfa'n dal yn "fregus" meddai Dominig.

Fe fyddai cyfle "go iawn" i bobl ddysgu'r iaith ac adnabod diwylliant y wlad yn gwneud gwahaniaeth meddai ac fe fyddai'n hoffi gweld teledu Llydaweg hefyd.

"Mae'n siomedig tu hwnt fod y llywodraeth y dyddiau yma yn dal ati i wneud pethau fel hyn," meddai Dominig.

"O ran y dyfodol, mae'n anodd ac mae pobl yn y byd Llydaweg yn gwybod ei bod hi'n anodd. Ond 'da ni'n dal i gredu."

Beth yw'r sefyllfa o ran enwi plant a'r Gymraeg?

Mae gan nifer o wledydd restrau o enwau mae rhieni newydd yn gorfod dewis ohonynt ond fe gewch chi ddewis unrhyw enw i'ch plentyn yn y DU cyn belled ag nad ydy'r enw'n sarhaus neu'n tramgwyddo ('offensive').

Ac yn ôl y Swyddfa Gartref mae holl acenion a symbolau'r Gymraeg, fel y to bach, ar gael i'r cofrestrydd eu cynnwys wrth gofrestru enw plentyn.

Ond os ydych chi'n Siân neu'n Llŷr fydd eich to bach chi ddim yn ymddangos ar eich pasbort.

Yn ôl canllawiau'r Swyddfa Gartref does dim modd cynnwys rhifau, symbolau nac atalnodau, heblaw cysylltnod (-) neu gollnod ('), na chwaith "farciau diacritig fel acenion".

Yn ôl y canllawiau, "ystyriaethau Technoleg Gwybodaeth" yw'r rheswm am hyn.