Rhybudd y gallai glaw trwm achosi llifogydd yn y de
- Published
image copyrightThinkstock/Y Swyddfa Dywydd
Mae rhybudd tywydd mewn grym ar gyfer de Cymru, wrth i'r Swyddfa Dywydd ddweud y gallai glaw trwm achosi llifogydd mewn rhai mannau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai cawodydd taranllyd hefyd amharu ar amseroedd teithio, gyda disgwyl i hyd at 30mm o law ddisgyn o fewn ychydig oriau.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 13:00 ddydd Sadwrn a 06:00 fore Sul.
Mae disgwyl i'r cawodydd gwaethaf basio Cymru tuag at y de erbyn hanner nos.