Plant mor ifanc â chwech wedi hunan niweidio yn yr ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae plant mor ifanc â chwech oed wedi hunan niweidio mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.
Dywedodd un cyngor bod nifer y plant sy'n cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol am eu bod yn hunan anafu wedi cynyddu 600% mewn tair blynedd.
Mae undeb addysg yr NEU wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno swyddogion llesiant mewn ysgolion.
Dywedodd y llywodraeth bod yr ysgrifennydd addysg a'r ysgrifennydd iechyd wedi cynnal trafodaethau ac y byddan nhw'n gwneud "cyhoeddiad pwysig yn fuan".
Cynnydd o 41%
Yn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, dim ond tri o'r 22 cyngor yng Nghymru oedd ag ystadegau am nifer y digwyddiadau'n ymwneud â hunan niweidio mewn ysgolion.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod 48 digwyddiad yn ei ysgolion yn 2016-17 - wyth oedd y ffigwr yn 2014-15 - a'u bod oll wedi eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol.
Roedd yr ieuengaf o'r 48 yn chwe blwydd oed.
Fe wnaeth Cyngor Merthyr Tudful gyfeirio 22 o blant - yr ieuengaf yn 11 oed - at y gwasanaethau cymdeithasol y llynedd.
Roedd hyn i lawr o 54 yn y flwyddyn flaenorol.
Fe wnaeth ysgolion Gwynedd gyfeirio 150 disgybl at y gwasanaethau cymdeithasol y llynedd, ond mae'r rhain yn ymwneud â materion amrywiol - nid hunan niweidio yn unig.
Roedd y ffigwr yma hefyd i lawr o 195 yn 2014-15
Mae ffigyrau NSPCC Cymru yn dangos bod nifer y bobl ifanc sy'n mynd i'r ysbyty am eu bod yn hunan anafu wedi cynyddu 41% mewn tair blynedd.
Dywedodd yn NEU fod gan rai ysgolion dimau llesiant, tra bo eraill yn rhoi'r cyfrifoldeb i athro.
"Yn sicr dylid edrych ar gael cysondeb ar draws y wlad a sicrhau bod mwy o nawdd yn cael ei roi i ysgolion gyflogi pobl sydd wedi'u hyfforddi mewn llesiant," meddai swyddog polisi NEU Cymru, Owen Hathway.
Dywedodd Owen Hathway mai "nid rôl athrawon yw bod yn swyddogion y gwasanaethau cymdeithasol"
Cymru yw'r unig wlad yn y DU ble mae'n rhaid i ysgolion gynnig gwasanaethau cwnsela i blant ysgol uwchradd, ond dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod hynny bellach "ddim yn ddigon".
"Rydyn ni, mwy na thebyg, angen therapyddion mewn ysgolion gydag amryw o wahanol sgiliau a chefnogaeth," meddai'r Athro Sally Holland.
"Dydw i ddim yn meddwl y gallwn ni ddisgwyl i athrawon wneud gwaith iechyd meddwl mewn ysgolion - mae 'na arbenigwyr all wneud hynny sydd â'r arbenigedd a'r hyfforddiant sydd ei angen."
'Cyhoeddiad yn fuan'
Mae Llywodraeth Cymru yn drafftio cynlluniau i ddiwygio addysg ac iechyd meddwl, ond dywedodd yr Athro Holland ei bod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i'w hannog i weithio'n agos gyda'i gilydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ei strategaeth Siarad â Fi 2 yn cefnogi pobl ifanc sydd yn ystyried hunan niweidio neu ladd eu hunain.
"Mae'r ysgrifennydd addysg a'r ysgrifennydd iechyd wedi bod yn ystyried sut y gellir cryfhau gwytnwch emosiynol ac iechyd meddwl mewn ysgolion a byddwn yn gwneud cyhoeddiad pwysig yn fuan," meddai.