Pro14: Gweilch 16-21 Munster
- Cyhoeddwyd

Jean Kleyn yn sgorio cais cyntaf yr ymwelwyr
Fe lwyddodd Munster i drechu'r Gweilch brynhawn Sadwrn i barhau'n ddiguro yn y Pro14.
James Hook sgoriodd cais cynta'r gêm i'r tîm cartref ond y Gwyddelod gafodd y gorau o'r hanner cyntaf ar ôl hynny.
Fe wnaeth Munster gymryd mantais o hynny gyda cheisiau gan Jean Kleyn a Darren Sweetnam.
Roedd Sam Davies yn gywir gyda'i gicio gan ddod a'r Cymry o fewn cais i'r ymwelwyr erbyn y munudau olaf, ond llwyddodd Munster i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Dim ond un gêm mae'r Gweilch wedi ei hennill hyd yn hyn y tymor yma, a honno yn erbyn Zebre.