Pro14: Gleision 19-20 Glasgow
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth Steve Shingler fethu cic gosb hwyr o flaen y pyst wrth i'r Gleision golli o un pwynt yn erbyn Glasgow nos Sadwrn.
Fe wnaeth cais cynnar Tom James a chicio cywir gan Shingler roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond lwyddodd yr ymwelwyr i daro 'nôl gyda cheisiau gan Henry Pyrgos a Lee Jones.
Roedd gan Shingler gyfle i ennill y gêm yn y munudau olaf, ond fe wnaeth y maswr fethu ei gic o flaen y pyst.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gleision bellach wedi colli tair gêm yn olynol.