Dyna lle mae e!

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi lluniau o'r holl eiddo coll sy' wedi dod i'r golwg ers yr ŵyl ym mis Awst ar eu tudalen Facebook. Mae'r eitemau, o esgidiau i ipad, sbectolau i ymbaréls, yn aros i gael eu hawlio o swyddfa'r Eisteddfod.

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Llun:

"Mae 'na 26 o barau o sbectol neu sbectol haul yma. Mae 'na bâr o sgidia' cerdded, pâr o sgidiau lledr i ddyn ac un pâr o sgidiau piws lilac i ddynes.

"Ar ben hynny mae 'na rhyw 22 o barau ychwanegol o sgidiau, pedair esgid sengl, cotiau glaw, hoodies, dillad plant a llwyth o ddillad lliw du... 'dan ni'n meddwl hwyrach mai dillad cystadleuwyr 'di rhein.

"Mae 'na oriadau, gemwaith, pedwar ffôn, ipad, sgarffiau, ymbaréls...

"Mae 'na lot wedi cysylltu â ni ers y Steddfod a hawlio eu eitemau yn ôl. Os ydach chi eisiau cysylltu, gallwch weld y lluniau ar y we, a chysylltu â ni ar gwyb@eisteddfod.org.uk."

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol

O ddiddordeb:

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru