Pan oeddwn yn ifanc a ffôl

Rwyf wedi bod yn crafu fy mhen yn ceisio meddwl am rywbeth newydd i ddweud ynghylch refferendwm datganoli 1997. Ysgrifennais ddarn yn Saesneg ynghylch y ffordd wnaeth y BBC ddarogan y canlyniad anghywir ond rwy'n amau bod darllenwyr y golofn hon yn hen gyfarwydd â stori John Meredith a'i 'ydwyf' enwog.

Beth newydd sy 'na i ddweud? Wel, fe gafwyd cyfaddefiad diddorol gan Ron Davies dros y Sul bod oddeutu traean o aelodau seneddol Llafur Cymru yn dawel wrthwynebus i'r cynllun datganoli ar y pryd. Pe bai'r rheiny wedi siarad mas, gan roi caniatâd i gefnogwyr Llafur bleidleisio 'na', mae'n debyg y byddai'r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn.

Pam felly na chafwyd fersiwn newydd o 'giang o chwech' 1979 yn 1997? Pam oedd gwrthwynebwyr datganoli o fewn y blaid Lafur mor dawedog yn 1997 o gymharu â Kinnock ac Abse a'u pedwar cyfaill ddeunaw mlynedd yn gynt?

Gofynnwch y cwestiwn yna i Ron Davies ac fe gewch yr ateb 'strong leadership' wrth i wen fach slei chwarae ar ei wefusau. Dyw e ddim yn fodlon mynd i fanylion ond gallwn gymryd bod y 'strong leadership' yna yn gyfuniad o addewidion, swyno a bwlian gan Ron ei hun a chan y chwipiaid

Haws oedd gwneud hynny wrth gwrs ym mis mel llywodraeth newydd Tony Blair nac ym machlud llywodraeth gloff James Callaghan. Serch hynny mae tawedogrwydd neu lyfrdra gwrthwynebwyr datganoli o hyd yn dipyn o ryfeddod nes i chi cofio un peth.

Mae cefnogwyr datganoli wastod wedi teimlo'n gryfach ynghylch y peth na'u gwrthwynebwyr. Wrth reswm, eu bod nhw.

Holl bwynt y gwrthwynebwyr oedd 'na fyddai Cynulliad yn gwneud llawer o wahaniaeth i Gymru, bod y peth yn wastraff arian ac amser. Mae'n anodd iawn teimlo'n gryf ynghylch rhywbeth sydd, yn eich tyb chi, yn ddibwys. Rhowch hwnna yn fantol yn erbyn holl barhad Cymru a Chymreictod a does dim angen gofyn ar ba ochor y bydd yr emosiwn a'r ymroddiad.

Yr 'intensity gap' yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r anghyfartaledd emosiwn rhwng carfannau gwleidyddol ac mae'n rhannol gyfrifol am rai o ddaeargrynfeydd gwleidyddol y blynyddoedd diwethaf. Faint o bobol o ddifri oedd yn frwdfrydig ynghylch Hilary Clinton? Donald Trump ar y llaw arall... a thra fy mod yn hyderus bod miloedd o ddynion oedrannus yn canu 'Land of Hope and Glory' yn y bath wrth freuddwydio am Brexit prin yw'r rheiny fyddai'n canu 'An die Freude' wrth chwifio'u baneri glas Ewropeaidd.

Ond dyma syniad i chi, beth pe bai David Cameron wedi mabwysiadu tactegau Ron Davies a cheisio ffrwyno a thawelu'r lleiafrif Brexitaidd o fewn ei blaid ei hun? A fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth? Rwy'n amau y byddai hi. Fel mae pethau, mae Ron Davies yn cael ei gofio fe 'pensaer datganoli' a Cameron druan fel pensaer ei dranc ei hun.