Brexit: Cymru a'r Alban yn galw am welliannau

brexit cymru

Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi datgan yr hyn y maen nhw'n credu sydd angen newid cyn iddyn nhw dderbyn mesur Brexit Llywodraeth y DU.

Mewn cam ar y cyd ddydd Mawrth mae gweinidogion yng Nghaerdydd a Chaeredin wedi cyhoeddi cyfres o welliannau i Fesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gwrthwynebu'n ffurfiol gynllun Theresa May i drosglwyddo deddfau'r UE i'r DU wrth i Brexit ddod i rym.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y mesur yn "herwgipio" pwerau sy'n eiddo i Gymru.

Fe fydd ACau'n pleidleisio ar gynnig cydsyniad deddfu ar y sail y bydd y mesur yn effeithio ar rymoedd y Cynulliad.

Galwadau

Dywedodd Mr Jones a Ms Sturgeon eu bod am:

  • Sicrhau fod pwerau dros feysydd datganoledig yn dychwelyd i'r Cynulliad a Senedd yr Alban ar ôl gadael yr UE;
  • Atal gweinidogion y DU rhag gwneud newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru a Deddf yr Alban;
  • Fynnu cydsyniad Llywodraeth Cymru i unrhyw newidiadau angenrheidiol i ddeddfau Ewropeaidd mewn meysydd datganoledig wedi Brexit;
  • Sicrhau nad oes cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu rhoi ar weinidogion datganoledig o'i gymharu â gweinidogion Llywodraeth y DU.
Image copyright Llywodraeth y DU/Twitter
Image caption Bu swyddogion o lywodraethau Cymru a'r DU yn cwrdd yng Nghaerdydd yn gynharach y mis yma

Dywedodd Mr Jones fod angen i'r llywodraethau gydweithio "i sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mor esmwyth â phosib".

"Mae'n wir dweud bod safbwyntiau gwleidyddol Theresa May, Nicola Sturgeon a minnau i gyd yn wahanol iawn, ond ar fater mor bwysig â Brexit rhaid i ni roi'r gwahaniaethau gwleidyddol hynny o'r neilltu a chydweithio i sicrhau sefydlogrwydd er lles ein heconomi, ein swyddi a'n gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Nid oes modd i un llywodraeth benderfynu cipio pwerau oddi wrth y ddwy arall."

Ychwanegodd: "Rydyn ni am weld Bil sy'n gweithio gyda'r broses ddatganoli, nid yn ei herbyn. Nes cyrraedd y sefyllfa honno, does dim modd i ni gydsynio i'r Bil."

30 gwelliant

Bwriad Mesur Gadael yr UE gan Lywodraeth y DU yw llyncu'r holl ddeddfau Ewropeaidd sy'n berthnasol i gyfraith y DU yn syth wedi Brexit, er mwyn sicrhau bod rheolau yn dal mewn grym cyn i unrhyw newidiadau fedru cael eu gwneud iddyn nhw.

Ond mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi gwrthwynebu'r syniad y bydd cyfrifoldebau'r UE mewn materion sydd wedi eu datganoli, megis amaethyddiaeth, yn cael eu cadw yn San Steffan yn gyntaf cyn i drafodaethau pellach ddigwydd.

Yn ôl Llywodraeth y DU mae angen y mesur er mwyn sicrhau trefniadau masnach yn y dyfodol ar ôl gadael yr UE.

Mae gweinidogion San Steffan hefyd yn dweud y bydd Brexit yn arwain at ddatganoli mwy o bwerau.

Image caption Mae Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn dweud eu bod eisiau sicrhau nad yw Cymru a'r Alban yn colli unrhyw bwerau

Bu dirprwy Theresa May, Damian Green, yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn yn cynnal ei drafodaethau Brexit cyntaf gyda Carwyn Jones.

Roedd anghytundeb yn parhau wedi'r cyfarfod, ond daeth cadarnhad y bydd llywodraethau'r DU, Cymru a'r Alban yn cael cyfle i drafod y mater eto mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogol yn San Steffan o fewn yr wythnosau nesaf.

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd hyd at 30 o welliannau'n cael eu cynnig gan lywodraethau Cymru a'r Alban.

Mae disgwyl i ASau Llafur a'r SNP gyflwyno'r gwelliannau yn San Steffan er mwyn ceisio rhwystro'r mesur rhag symud ymlaen.

Mewn ymateb ddydd Mawrth dywedodd Mr Green ei bod hi'n bwysig canfod ym mha feysydd y mae angen gweithredu ar lefel Brydeinig a "ble mae'n gwneud synnwyr i drosglwyddo pwerau yn syth i'r llywodraethau datganoledig".

Ychwanegodd y byddai hynny'n cynnwys trafodaethau ar 111 maes polisi yn yr Alban a 64 maes polisi yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael eu rheoli o Frwsel.

"Pan mae'n well i ddatganoli dyna wnawn ni, fel 'dyn ni wedi gwneud am yr 20 mlynedd diwethaf," meddai.

Straeon perthnasol