Cynllun M4 y llywodraeth 'yn agored i her gyfreithiol'

M4 Image copyright Geograph/Colin Pyle
Image caption Yn ôl yr AC Llafur, Lee Waters, mae Llywodraeth Cymru "eisoes wedi penderfynu" pa gynllun maen nhw am ei ddilyn - er bod ymchwiliad yn parhau

Gallai penderfyniad terfynol Llywodraeth Cymru ar ffordd newydd o gwmpas yr M4 fod yn agored i her gyfreithiol, yn ôl un o AC meinciau cefn Llafur.

Gan amlinellu ei wrthwynebiad i ffordd liniaru newydd ger Casnewydd, dywedodd Lee Waters fod rhybudd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol bod y llywodraeth yn camddehongli eu deddfwriaeth eu hunain yn "arwyddocaol iawn".

Dywedodd Sophie Howe nad oedd hi "yn diystyru" galw am adolygiad ei hun ond byddai'n aros tan ddiwedd yr ymchwiliad cyhoeddus.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Argraff artist o ffordd liniaru'r M4, fyddai'n cael ei hadeiladu o gwmpas de Casnewydd

Dechreuodd yr ymchwiliad cyhoeddus nôl ym mis Chwefror a'r disgwyl yw y bydd e'n gorffen ar ddiwedd y flwyddyn.

Nid oes rhaid i Lywodraeth Cymru, sydd wedi dadlau bod ffordd newydd yn hanfodol, ddilyn penderfyniad terfynol yr ymchwiliad.

Mae nifer o ffyrdd gwahanol wedi cael eu cynnig ond dewis cyntaf Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yw'r llwybr du. Dywedodd ar ôl etholiadau'r Cynulliad y llynedd "nad yw'n ymddangos bod yna ddewis amgen".

Mae'r llwybr gwerth £1.1bn yn cynnwys 15 milltir o draffordd newydd, traphont 1.5 milltir sy'n croesi Afon Wysg yn ogystal â gweddnewid cyffyrdd 23 a 29 yr M4.

Llywodraeth 'eisoes wedi penderfynu'

Dywedodd AC Llafur Llanelli, Lee Waters, wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC ei fod yn credu ei bod "yn gwbl glir bod y llywodraeth eisoes wedi penderfynu ac maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw wastad wedi'i wneud."

Ychwanegodd Mr Waters, sydd wedi gwrthwynebu'r ffordd newydd ers talwm: "Mae hwn yn swm sylweddol o arian ar adeg pan mae ein cyllidebau'n gostwng bob blwyddyn ac rydym yn gorfod torri cynlluniau a allai wella'r economi mewn ffordd llawer mwy cynhyrchiol.

"Nid yw hyn yn werth da am arian, ni fydd yn mynd i'r afael â thagfeydd oherwydd yn y tymor hir bydd yn arwain at gynnydd yn nhraffig ar y ffyrdd, ac mae'n codi problemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol... trwy gynyddu allyriadau a niwed i'r amgylchedd."

Nid oes rhaid i weinidogion Llafur Cymru ofyn am ganiatâd y Cynulliad am y penderfyniad terfynol, ac mae ffynonellau'r llywodraeth yn dadlau bod ymrwymiad i ddarparu "ffordd liniaru ar gyfer yr M4" wedi'i gynnwys ym maniffesto Cynulliad y blaid.

Image caption Mae Lee Waters wedi datgan ei wrthwynebiad i'r llwybr du ers tro

Cyfeiriodd Mr Waters at honiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe, y gallai gweinidogion fod yn gosod "cynsail peryglus" yn y ffordd y maen nhw wedi dehongli Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gorfod cyrff cyhoeddus i ystyried effaith economaidd, gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol unrhyw benderfyniad polisi.

"O ystyried bod comisiynydd y llywodraeth wedi dweud wrth yr arolygydd cynllunio bod hyn, yn ei barn hi, yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth y llywodraeth, maen nhw wedi dehongli eu cyfraith eu hunain yn anghywir, sy'n golygu bod y llywodraeth yn agored i adolygiad barnwrol," meddai.

"Pwy sy'n gwybod sut y bydd hyn oll yn dod i ben? Felly, dwi ddim yn meddwl mai dyma ddiwedd y stori," meddai.

'Pwysig fy mod yn ymyrryd'

Dywedodd Ms Howe: "Mae gen i bwerau penodol o dan y ddeddfwriaeth i gynnal adolygiadau. Dydw i ddim yn diystyru defnyddio'r pŵer hwnnw mewn perthynas â'r mater hwn ond rydym mewn proses ac mae angen inni adael i'r broses honno fynd rhagddi.

"Rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn dangos mai'r cynllun yma yn ei gyfanrwydd yw'r defnydd gorau o dros £1bn o arian cyhoeddus, a gadewch i ni fod yn onest, ein cenedlaethau yn y dyfodol fydd yn ad-dalu'r arian hwnnw.

Image caption Mae Sophie Howe yn dweud ei bod hi'n "bwysig" ei bod yn "ymyrryd" ar yr M4

"Mae yna ystod eang o resymau pam dydw i ddim yn credu bod y cynnig hwn yn cynrychioli'r defnydd gorau o arian cyhoeddus ac yn cynrychioli'r ffordd orau o sicrhau'r dyfodol gorau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Rwy'n credu bod hwn yn benderfyniad mor fawr, yn ddefnydd mor fawr o arian cyhoeddus, nid dim ond nawr ond yn y dyfodol, ei bod hi'n bwysig fy mod yn ymyrryd i gyflwyno fy nehongliad o'r ddeddfwriaeth hon ac, yn y diwedd, mae'n ddeddfwriaeth y mae Llywodraeth Cymru eu hunain wedi ei gyflwyno."

Status quo 'ddim yn opsiwn'

Mae ffordd newydd o amgylch Casnewydd - gafodd ei chynnig yn y lle cyntaf nôl ym 1991 - wedi ei chefnogi gan CBI Cymru, Siambr Fasnach De Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen penderfyniad i ddod â "therfyn ar draffig sy'n rhan annatod o'r rhan hon o Gymru."

"Rydym wedi bod yn glir iawn o'r dydd cyntaf nad yw'r status quo o gwmpas Casnewydd yn opsiwn," meddai.

"Mae'n rhaid i rywbeth dramatig ddigwydd gyda'r tagfeydd traffig sy'n tagu economi de-ddwyrain Cymru a Chymru gyfan.

Yn etholiad y Cynulliad y llynedd fe gefnogodd Plaid Cymru a UKIP ffordd amgen rhatach o'r enw'r llwybr glas ond mae UKIP wedi dweud y gallwn nhw gefnogi'r llwybr du.

Image caption Fydd llai o hyn ar yr M4 yn y dyfodol?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni allwn wneud sylw ar fanylion prosiect yr M4 tra bod yr arolygydd yn parhau i gasglu ac ystyried y wybodaeth fwyaf newydd fel rhan o ymchwiliad cyhoeddus annibynnol.

"Yn dilyn argymhelliad yr arolygydd, fe allwn wneud penderfyniad i fwrw 'mlaen gydag adeiladu prosiect yr M4 neu beidio."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol