Comisiynydd: Hawliau Cymraeg yn 'dechrau gwreiddio'

Meri Huws
Image caption Dywedodd Meri Huws bod ymdrechion sefydliadau cyhoeddus yn "galonogol"

Mae gwasanaethau Cymraeg yn gwella, ac mae gan bobl hyder bod eu hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn "dechrau gwreiddio", yn ôl adroddiad Comisiynydd y Gymraeg.

Ers mis Mawrth 2016 mae cynghorau sir, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol wedi gorfod cyrraedd safonau penodol o ran y gwasanaeth Cymraeg maen nhw yn ei gynnig.

Dywedodd Meri Huws bod ymdrechion sefydliadau cyhoeddus yn "gam pendant i'r cyfeiriad cywir" ond bod "gwaith pellach i'w wneud".

Mae llefarydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru dros y Gymraeg wedi dweud bod swyddogion cynghorau wedi gweithio'n "ddyfal ac yn ddygn".

'Gwasanaethau yn gwella'

Yn ôl swyddfa'r comisiynydd, roedd 78 o sefydliadau'n gweithredu'r safonau, gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol a'r gwasanaethau brys, erbyn Mawrth 2017.

Cafodd siaradwyr Cymraeg eu holi gan y comisiynydd, ac fe gafodd gwybodaeth ei gasglu o wahanol astudiaethau a'u cwmpasu yn yr adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad roedd 76% o'r farn fod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella a 57% yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.

Nododd yr adroddiad hefyd bod chwarter y swyddi a gafodd eu hysbysebu yn 2016-17 wedi nodi bod sgiliau Cymraeg yn "hanfodol".

Image caption Dywedodd Ellen ap Gwynn y byddai cynghorau'n parhau i weithio i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg

Dywedodd Ms Huws: "Mae'n galonogol iawn gweld bod ymdrechion sefydliadau i gydymffurfio â'r safonau dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn gam pendant i'r cyfeiriad cywir o ran parchu a diwallu hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Mae nifer cynyddol yn cyrraedd y safon, a chydweithio da yn digwydd rhyngom ni a'r sefydliadau."

Ond mae'r comisiynydd hefyd yn dweud bod "gwaith pellach i'w wneud o ran gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau Cymraeg".

"Adeiladu ar hyn sydd ei angen nawr, fel bod cynnig gwasanaeth Cymraeg yn 'norm' ym mhob sefydliad," meddai.

Ychwanegodd llefarydd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru dros y Gymraeg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, bod swyddogion wedi "gweithio'n ddyfal ac yn ddygn" i sicrhau bod cynghorau'n cydymffurfio â'r safonau.

Dywedodd: "Bydd awdurdodau lleol yn edrych ymlaen at gydweithio â'r comisiynydd mewn modd yr un mor agored yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu chwarae rôl allweddol i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol