Mwyafrif cynghorau ddim yn talu cyflog byw o £8.45 yr awr

Tal cyflog
Image caption Mae ymgyrchwyr sydd o blaid cyflog byw yn dweud bod gweithwyr yn fwy cynhyrchiol

Mae mwyafrif awdurdodau lleol Cymru yn talu llai na'r cyflog byw i staff sydd ar eu lefelau tâl isaf.

Cyfradd wirfoddol yw'r cyflog byw sy'n cael ei bennu'n annibynnol, yn seiliedig ar gostau byw sylfaenol.

Mae'r ymchwil yn dangos bod Cyngor Caerdydd yn darparu'r gyfradd fel lleiafswm cyflog i staff ond mae 44% o swyddi Sir Benfro a 46% o swyddi Cyngor Wrecsam yn talu llai na hynny.

Nid oes gan 15 o'r 22 awdurdod ymrwymiad i dalu o leiaf £8.45 yr awr i weithwyr, cyflog sy'n cael ei weld gan ymgyrchwyr fel digon i dalu am gostau byw sylfaenol.

Mae'n fwy na'r cyflog byw statudol cenedlaethol i bobl dros 25 oed, sy'n £7.50 yr awr ar hyn o bryd.

Daeth y wybodaeth i law BBC Cymru drwy gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Doedd Caitlin Perry ddim yn derbyn cyflog byw tan iddi ddechrau swydd newydd yn y Cynulliad

Cyngor y brifddinas yw'r unig awdurdod yn y wlad sy'n mynnu bod contractwyr yn derbyn isafswm y cyflog byw.

Mae'r saith bwrdd iechyd yn talu o leiaf £8.45 yr awr i staff, ond dim ond byrddau Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf sy'n sicrhau bod contractwyr yn derbyn yr un telerau.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru eisoes yn talu'r gyfradd i staff a chontractwyr.

Yn ôl ymgyrchwyr, gan gynnwys Sefydliad Bevan, petai gweithwyr llawn amser yn ennill £40 yn ychwanegol yr wythnos, mae'n bosib byddai lefel cynhyrchiant yn codi ac absenoldeb o'r gwaith yn gostwng.

Mae Oxfam Cymru yn dadlau bod talu'r gyfradd yn "allweddol i godi pobl Cymru o dlodi".

Cyflogau isel yw un o'r ffactorau sy'n atal economi Cymru rhag ffynnu, gyda tua 23% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr unig awdurdod yng Nghymru sy'n mynnu bod contractwyr a staff yn derbyn y cyflog byw

Wrth siarad gyda rhaglen O'r Senedd, dywedodd Chris Llewelyn o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Pe bai unrhyw awdurdod yn gallu talu'r cyflog byw sylfaenol, fe fydden nhw.

"Y drafferth yw maen nhw o dan bwysau ariannol ar hyn o bryd.

"Mae cyllid awdurdodau lleol wedi cael ei dorri dros y saith mlynedd diwethaf.

"Yn yr un amser mae pwysau ariannol yn codi, mae pwysau cyflogau ar draws yr ystod o wasanaethau mae awdurdodau yn darparu, costau eraill yn cynyddu ac yn codi trwy'r amser, felly dyw e ddim yn bosib cwrdd â'r holl alwadau hyn."

'Mater o flaenoriaethau'

Ychwanegodd: "Wrth gwrs mater o flaenoriaethau yw e. Mae awdurdodau drwy'r amser yn gorfod defnyddio eu cyllid mewn ffordd effeithlon ac effeithiol ac yn gorfod gosod blaenoriaethau.

"Pe bai awdurdodau yn talu mwy, byddai hynny ar draul gwasanaethau a byddai toriadau ym meysydd eraill."

Image caption Byddai'r economi yn lleol yn elwa pe byddai gweithwyr yn cael cyflog byw, medd Dr Marlene Davies

Yn bennaf, cynghorau mewn mannau gwledig sy'n talu llai na'r cyflog byw.

Yn ôl Dr Marlene Davies, sy'n arbenigo mewn llywodraeth leol, mae diffyg swyddi mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael effaith.

"Mae'r cynghorau yma yn elwa ar y ffaith, os na ewch chi i weithio gyda'r cyngor, lle arall ewch chi i weithio? Ac maen nhw'n derbyn y ffaith bod nhw'n gallu cwtogi faint maen nhw'n talu pobl.

"Wrth gwrs mae hwnna yn cael effaith ar yr economi, os fyddan nhw'n talu bach yn fwy, byddai economi'r ardal yn codi gyda fe."

Er hynny, mae Dr Davies yn cydnabod bod darparu gwasanaethau yn aml yn ddrytach yng nghefn gwlad.

"Mae mwy o gostau gyda nhw o ran teithio mewn yn un peth - Powys er enghraifft a Sir Benfro, does 'na ddim dinasoedd mawr yn y llefydd yma felly mae pobl wedi eu gwasgaru ar hyd yr ardal, ac ma' fe'n rhoi mwy o straen ar y cynghorau yma."

O'r Senedd, 22:00 ar S4C nos Fawrth

Straeon perthnasol