Huw Thomas
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cyflog byw yn golygu staff 'hapusach'

18 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:50 BST

Mae cyflog byw yn golygu bod staff yn "hapusach" medd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

Dyma'r unig awdurdod yng Nghymru sy'n mynnu bod contractwyr a staff yn derbyn isafswm y cyflog byw.

Mae'n dweud bod cynnig y cyflog ddim wedi bod yn broses hawdd oherwydd y toriadau ond bod y gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu yn fwy.

Daw wrth iddi ddod i'r amlwg bod mwyafrif o awdurdodau lleol Cymru yn talu llai na'r cyflog byw uwch, £8.45 yr awr, i staff sydd ar eu lefelau tâl isaf.