Cymru i herio Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ym Mharis

Cymru Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cymru ag atgofion melys o Ffrainc yn dilyn eu llwyddiant yn Euro 2016

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd y tîm cenedlaethol yn herio Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ym Mharis fis nesaf.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn y Stade de France nos Wener, 10 Tachwedd, gyda'r gic gyntaf am 20:00 amser Cymru.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers i Gymru ennill yn erbyn Ffrainc o 1-0 yn Toulouse yn 1982.

Daeth ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 i ben yn gynharach yn y mis wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Weriniaeth Iwerddon o 1-0 yng Nghaerdydd.

Bydd Ffrainc yn paratoi ar gyfer Rwsia yn yr haf, wedi iddyn nhw ennill eu grŵp yn y rowndiau rhagbrofol.

Dyfodol Chris Coleman

Mae'n debyg mai Chris Coleman fydd y rheolwr ar gyfer y gêm, er ei fod yn dal i ystyried ei ddyfodol.

Mae ei gytundeb â Chymru'n dod i ben ar ddiwedd mis Tachwedd, ac mae'r gymdeithas yn bwriadu dechrau trafodaethau yn fuan gyda'r gobaith o ymestyn ei gytundeb.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Cymru herio Gogledd Iwerddon ym Mharis yn Euro 2016, ond yn y Parc des Princes oedd honno

Mae Cymru hefyd wedi cael cynnig chwarae yng Nghwpan China ym mis Mawrth 2018.

Cafodd y gystadleuaeth rhwng pedwar tîm cenedlaethol ei gynnal am y tro cyntaf ym mis Ionawr eleni, gyda Chile, Croatia, Gwlad yr Iâ a China yn cystadlu.