Dau yn y llys yn Ne Affrica am lofruddiaeth Cymry

De Affrica Image copyright Llun teulu
Image caption Cafwyd hyd i gyrff Roger a Christine Solik mewn afon yn dilyn lladrad yn eu cartref

Mae dau ddyn wedi bod o flaen llys ar gyhuddiadau o lofruddio cwpl o Gymru yn Ne Affrica.

Clywodd llys yn Pietermaritzburg bod Roger a Christine Solik wedi cael eu llofruddio ar ôl cael eu herwgipio.

Mae Xolani Brian Ndlovu, 32, wedi cyfaddef cyhuddiadau o herwgipio, lladrata difrifol a llofruddiaeth.

Fe blediodd dyn arall, Thulani Moses Mthembu, 43, yn ddi-euog i'r un cyhuddiadau.

Ym mis Chwefror fe gafwyd hyd i Mr Solik, 66, a'i wraig, 57, yn farw mewn afon tua 45 milltir o'u cartref yn ardal KwaZulu-Natal, tua 100 milltir o Durban.

Roeddan nhw wedi bod ar goll ers i gymdogion adrodd bod lladrad wedi bod ar eu fferm. Fe symudodd y ddau i Dde Affrica o Gwm Cynon yn y 1980au.

Mae achos Mr Mthembu yn parhau.

Straeon perthnasol