Arestio dyn wedi marwolaeth beiciwr modur yng Nghaerdydd

Heol Caerffili Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ger yr archfarchnad ar Heol Caerffili

Mae dyn 58 oed wedi ei arestio yn dilyn marwolaeth beiciwr modur mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad rhwng bws a beic modur ar Heol Caerffili yn ardal Birchgrove am tua 12:00.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y beiciwr modur wedi marw, a bod dyn 58 oed wedi ei arestio.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth a dylai unrhyw un welodd y digwyddiad gysylltu gyda nhw ar 101.

Pynciau Cysylltiedig