Casnewydd 1-2 Colchester United

Frank Nouble of Newport County is tackled by Doug Loft of Colchester United Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi colli am y tro cyntaf gartref yn Adran Dau ers mis Mawrth, gyda dwy gôl yn yr ail hanner yn sicrhau'r pwyntiau i Colchester United.

Cyn chwaraewr Casnewydd, Ryan Jackson, wnaeth roi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl 72 munud.

Pedwar munud yn ddiweddarach fe wnaeth y Ffrancwr Mikael Mandron fanteisio ar gic rydd Sean Murray i sgorio'r ail.

Er i'r eilydd Shawn McCoulsky daro 'nôl doedd hynny ddim yn ddigon gan roi diwedd ar eu rhediad o 10 gêm gartref heb golli

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn parhau yn y chweched safle.

Pynciau Cysylltiedig