GIG Cymru heb gyrraedd targed genedlaethol ers 18 mis

gwasanaeth iechyd Image copyright Stockvisual

Mae gwaith ymchwil gan y BBC yn dangos fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n methu â chyrraedd y rhan fwyaf o'i thargedau'n gyson.

Mae ystadegau'n dangos nad yw GIG Cymru wedi llwyddo i gyrraedd yr un o'i thri tharged allweddol ers 18 mis.

Daw'r casgliadau ddiwrnod cyn cyhoeddi'r ffigyrau misol diweddaraf ar berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod pobl yn aros yn "rhy hir", ond bod y galw am y gwasanaethau ar gynnydd.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos methiannau mawr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yr Alban yw'r unig wlad yn y DU i gael unrhyw lwyddiant o fewn y flwyddyn ddiwethaf, wrth gyrraedd y targed unedau brys dair gwaith.

Targedau allweddol

Daw'r casgliadau wrth i'r BBC gyhoeddi cynllun tracio sy'n caniatáu i bobl weld sut y mae eu gwasanaeth lleol yn perfformio o ran tri tharged penodol:

  • Aros am bedair awr mewn uned achosion brys;
  • Gofal canser 62 diwrnod;
  • Llawdriniaethau a thriniaethau wedi eu cynllunio.
Image copyright Thinkstock

Mae ystadegau'n dangos fod Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau yn gyson - wnaeth hi ddim cyrraedd yr un o'i phrif dargedau misol yn 2012-13 na 2016-17.

Y tro diwethaf i darged gael ei gyrraedd yn genedlaethol oedd yn 2010.

O'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, methodd pump â chyrraedd unrhyw darged yn ystod y 12 mis diwethaf:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda;
  • Bwrdd Iechyd Prifsygol Abertawe Bro Morgannwg;
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf;
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke

Mae perfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi bod o dan y chwyddwydr ers sawl blwyddyn.

Dydy'r GIG ddim yn cwrdd â'r rhan fwyaf o'i thargedau amser.

Os edrychwn ni yn ôl bedair blynedd, roedd y sefyllfa bron yr union yr un fath.

Fydd hyn ddim yn syndod i'r rhai sy'n cadw llygad ar yr ystadegau, ond fe allai fod yn sioc i gleifion.

Er enghraifft ym mis Awst, bu 1,861 achos lle bu'n rhaid i glaf aros dros 12 awr cyn cael eu symud ymlaen o unedau brys. Dyna'r perfformiad gorau ers Rhagfyr 2015.

Rhaid cofio mai targed Llywodraeth Cymru yw na ddylai'r un claf orfod aros mor hir â hynny.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwadu na allai'r perfformiad fod yn well, ond mae'n dadlau fod yna amrywiaeth o ddangosyddion eraill sy'n dangos nad yw perfformiad Cymru'n waeth na gwledydd eraill y DU, a'i fod weithiau'n well.

Mae ystadegau heddiw'n tynnu sylw at y tair her fawr sy'n wynebu gwasanaethau iechyd ar draws y DU:

  • Mae poblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio yn golygu fod angen gofal ar fwy o bobl nag erioed o'r blaen;
  • Mae prinder staff mewn meysydd allweddol yn golygu fod y GIG yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gofal angenrheidiol;
  • Daw hyn oll pan fo'r esgid yn gwasgu ar wariant o fewn y gwasanaethau cyhoeddus - er gwaethaf cynnydd diweddar yng ngyllideb y GIG.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol