Cyfoeth Naturiol Cymru 'methu diogelu ein pysgodfeydd'

Afon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn methu yn eu dyletswydd i ddiogelu a gwella ein pysgodfeydd, a byddai tynnu'r cyfrifoldebau oddi arnyn nhw yn gwella'r sefyllfa, yn ôl cymdeithasau pysgota.

Gwnaed yr honiad ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru, sy'n clywed am bryderon ymhlith pysgotwyr nad oes digon yn cael ei wneud i ddal rhai sy'n potsio, a diogelu'r pysgodfeydd.

Yn ôl aelodau cymdeithasau pysgota Cymru a chyn feiliff dŵr, mae'r rhai sydd i fod yn gwneud y gwaith yn gorfod blaenoriaethu eu horiau mewn meysydd eraill sydd o fewn dyletswyddau CNC.

Dywedodd CNC bod eu grant pysgodfeydd wedi ei dorri 20% mewn termau real ers 2013, a'u bod yn gwneud eu gorau er gwaetha'r toriadau.

'Cosbi pysgotwyr'

Dywedodd pysgotwyr wrth Manylu eu bod yn poeni hefyd am niferoedd y pysgod, sydd wedi gostwng dros y blynyddoedd ac angen eu gwarchod.

Daw'r sylwadau yn ystod cyfnod ymgynghori CNC ar y cynnig y dylai pysgotwyr ryddhau pob eog maen nhw'n eu dal yn ôl i'r afon o'r flwyddyn nesa ymlaen.

Mae rhai yn teimlo y byddai hyn yn cosbi pysgotwyr sy'n prynu trwyddedau ac yn cadw at y rheolau.

Ond yn ôl CNC, mae'n rhaid cymryd mesurau i gywiro'r lleihad difrifol yn y stoc eogiaid yn afonydd Cymru.

Image caption Dywedodd Rhys Llywelyn y byddai'n well cael corff sy'n gyfrifol yn unig am bysgodfeydd

Mae blaenoriaethau CNC yn anghywir yn ôl Rhys Llywelyn, llywydd Cymdeithas Brithyll ac Eog Cymru a chyn uwch gynghorydd gyda CNC.

"Os edrychwch chi ar unrhyw wlad ar draws y byd sydd â chyfoeth o bysgota, fel Awstralia, Seland Newydd, Canada a'r Unol Daleithiau, maen nhw wedi creu cyrff sy'n edrych ar ôl buddiannau'r pysgotwyr, buddiannau'r pysgodfeydd, a dyna eu hunig ffocws nhw," meddai.

"Ac mae'r buddsoddiad hynny wedyn yn talu ar ei ganfed. Dydyn nhw ddim yn cael eu tynnu oddi wrth eu gwaith fel mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud.

"Felly mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, a fydden ni'n well gyda chorff sy'n gyfrifol yn unig am bysgodfeydd yng Nghymru? Dwi'n credu ar hyn o bryd taw ie ydy'r ateb."

Ychwanegodd: "Roedd y swyddogion gorfodaeth oedd gennym ni, y bois oedd yn mynd allan i ddal potswyr a sicrhau bod dim llygredd yn mynd ymlaen, yn cael eu tynnu i fynd i edrych ar wastraff o ffermydd neu edrych ar orfodaeth mewn ardal arall."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Emyr Lewis yn dweud bod y cwymp yn nifer y bailiffs dŵr wedi arwain at gynnydd mewn potsio

Mae Emyr Lewis o Lanbrynmair, Powys, yn pysgota ers oedd yn bump oed. Roedd yn failiff dŵr am 40 mlynedd, ac roedd 69 yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith pan gychwynnodd o.

Dim ond 16 sydd yna erbyn hyn, ac mae ei fab yn un ohonyn nhw.

"Dwi'n clywed ar Facebook am yr holl botsian sy'n digwydd ar afonydd gogledd Cymru, maen nhw'n dangos y pysgod maen nhw wedi'i ddal ac yn cael get away efo fo achos does 'na ddim digon o ddynion ar yr afonydd i gadw golwg arnyn nhw," meddai Mr Lewis.

"Mae gan y ciperiaid ardaloedd mawr i edrych ar eu holau.

"Mae gen i fab yn gipar ac mae ganddo ardal o ogledd y Bermo lawr i Aberystwyth ar draws i Lanidloes, Rhaeadr ac i fyny i'r Trallwng a'r Drenewydd.

"Mae o tuag awr a hanner o'r cipar agosaf ato."

'Dim llawer ar ôl'

Dywedodd Rhodri Thomas, sy'n gyfrifol am rannau o Geredigion, bod nifer y potswyr wedi gostwng ers iddo gychwyn ar ei waith fel bailiff dŵr i CNC.

"Yn fy marn i mae'r nifer wedi mynd lawr. Amser o'n i yn cychwyn ar y Teifi byddwn yn cael 20 rhwyd neu fwy pob tymor," meddai.

"Eleni mae'n deg dweud mai dim ond tair 'da ni wedi'u cael."

Ond mae'n cyfaddef bod llai o failiffs yn gwneud y gwaith. "Does dim llawer o ni ar ôl," meddai.

"Mae saith tebyg i fi yn ardal de-orllewin Cymru a ni'n gorfod helpu'n gilydd mas cymaint a gallwn ni, a gweithio mor galed a gallwn ni i gyfro gymaint a gallwn ni."

Image caption Rhodri Thomas yn chwilio am botswyr wrth draeth Poppit ger Aberteifi

Dywedodd CNC wrth Manylu bod eu grant pysgodfeydd wedi ei dorri 20% mewn termau real ers 2013, a bod eu hincwm o drwyddedau gwialen wedi gostwng hefyd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd bod eu staff yn haeddu clod am eu hymrwymiad i'r amgylchedd a physgodfeydd dan amgylchiadau ariannol heriol sy'n wynebu pawb yn y sector cyhoeddus.

Ychwanegodd eu bod yn gwneud eu gorau er gwaetha'r toriadau, ond eu bod wedi gorfod newid y ffordd maen nhw'n gweithio o ganlyniad.

Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda'r gymuned pysgota a phartneriaid eraill er mwyn lleihau effaith unrhyw weithred anghyfreithlon ar iechyd a niferoedd y pysgod.

Manylu ar Radio Cymru, dydd Iau 19 Hydref am 12:30 ac ailddarllediad ddydd Sul 22 Hydref am 16:00.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol