'Cynnwrf' am Esperanto wrth i'r iaith nodi carreg filltir

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y 'cynnwrf' am Esperanto yng Nghymru

Ganrif ers marwolaeth y dyn a'i dyfeisiodd, mae 'na gynnwrf ymhlith siaradwyr yr iaith Esperanto yng Nghymru ar hyn o bryd.

Fe fydd tref Conwy yn cynnal Diwrnod Esperanto am y tro cyntaf ddydd Sadwrn, dan lywyddiaeth maer y dref, sy'n siaradwr rhugl.

Daw cyn i'r Gynhadledd Esperanto Brydeinig a Phan Geltaidd ddod i Aberystwyth y flwyddyn nesaf.

Nod Dr Ludwik Zamhenof - y dyfeisiwr - oedd creu iaith ryngwladol fyddai'n "ail iaith i bawb" ac yn "hawdd i'w dysgu".

Miliwn yn dysgu ar-lein

Mae 'na griw yn dod at ei gilydd yn fisol yng Nghaerdydd i siarad Esperanto, ac ers y 1920au, mae rhai o drigolion y brifddinas wedi bod yn cwrdd i ddefnyddio'r iaith ryngwladol hon.

Ond gyda'r iaith yn ffynnu yn yr oes ddigidol - gyda dros filiwn yn ei dysgu ar wefan Duolingo bellach - mae trefnydd grŵp Caerdydd yn teimlo'r cynnwrf.

"Yn sicr [mae 'na gynnwrf], nid yn unig yng Nghymru ond ar hyd a lled y byd," meddai Heather Eason, sydd - yn wahanol i'r rhan fwyaf - yn siarad yr iaith ers plentyndod.

Image caption Mae technoleg yn rhan bwysig o'r cynnydd mewn diddordeb, yn ôl Heather Eason

"Mae miliwn o bobl yn ei dysgu hi ar-lein ar un wefan dysgu iaith adnabyddus.

"Hefyd yn y byd sydd ohoni, dwi'n meddwl bod pobl yn meddwl mwy am yr angen i ddeall ein gilydd - heb wleidyddiaeth."

'Iaith gynorthwyol, ryngwladol'

Sbardun Dr Zamenhof - oedd yn Iddew o Wlad Pwyl - wrth lunio'r iaith oedd ei ysfa i gael iaith niwtral mewn cyfnod o genedlaetholdeb, yn ôl un ieithydd.

""Nod Dr Zamenhof oedd creu iaith gynorthwyol, ryngwladol," meddai Dr Jon Morris, darlithydd ieithyddiaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Ail iaith i bawb, fyddai yn hwyluso cyfathrebu rhwng grwpiau ieithyddol ac ethnig gwahanol. Hefyd, y nod oedd creu iaith hawdd i'w dysgu mewn ffordd".

Yng Nghonwy dros y penwythnos, defnyddio'r iaith honno fydd bwysicaf. Mae maer Conwy, Bill Chapman, yn siarad Esperanto, ac wedi mynd ati i lunio diwrnod o weithgareddau drwy gyfrwng yr iaith.

"Dwi'n trio cyflwyno'r dref a'r ardal i bobl o wledydd eraill sydd yn barod i ddysgu rhywbeth am Gymru, ac am Gonwy," meddai.

"Hefyd dwi'n trefnu cwrs i bobl sydd yn awyddus i ddysgu'r iaith ryngwladol hon".

'Hanes o ddominyddu'

Felly beth yw dyfodol yr iaith? Yn ôl Dr Morris, mae hi'n debygol o barhau i gael ei siarad.

Ond ychwanegodd: "Fyddwn i ddim yn rhagweld bod Esperanto'n cyflawni'r nod [gwreiddiol]...

"Dyna beth sy'n eironig mewn ffordd - ac mae'n drist i ryw raddau - bod yr iaith wedi ei chreu er mwyn bod yn rhywbeth sy'n niwtral, ond os edrychwch chi ar yr ieithoedd mwyaf cyffredin yn y byd, fe welwch chi fod 'na hanes o ddominyddu."

Fe fydd Diwrnod Esperanto Conwy yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 21 Hydref, gyda'r gynhadledd yn Aberystwyth i ddod ym mis Ebrill 2018.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol