Ailagor Ffordd Fabian yn Abertawe yn dilyn gwrthdrawiad

lori Image copyright BAY TV
Image caption Lori'n cael ei chludo o safle'r gwrthdrawiad fore Iau

Mae cerddwr wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan lori yn Abertawe fore Iau.

Cafodd Ffordd Fabian yn y ddinas ei chau yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ailagor.

Image caption Bu cryn oedi ar Ffordd Fabiann un o'r pirf heolydd i ganol Abertawe

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe gafodd y Gwasanaeth alwad am 05:25 yn dilyn damwain ar Ffordd Fabian, Abertawe. Cafodd un cerbyd ymateb cyflym ei anfon a dau ambiwlans brys. Aed a dau o bobl i Ysbyty Treforys."

Roedd yna oedi mawr i draffig yn gynharach ond mae'r ffordd bellach wedi ailagor.