Ailagor Ffordd Fabian yn Abertawe yn dilyn gwrthdrawiad

traffic Image copyright Traffic Cymru
Image caption Mae'r digwyddiad wedi achosi oedi ar draffordd yr M4

Mae cerddwr wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ar ôl cael ei daro gan lori yn Abertawe fore Iau.

Cafodd Ffordd Fabian yn y ddinas ei chau yn dilyn y digwyddiad am 05:50.

Roedd yna oedi mawr i draffig yn gynharach ond mae'r ffordd bellach wedi ailagor.