Dal d'afal!

Mae hi'n dymor cynaeafu afalau unwaith yn rhagor.

Mae yna nifer o fathau gwahanol o afalau - rhyw 7,500 math ar draws y byd - gan gynnwys tua 50 o rai cynhenid Gymreig. Ond wyddoch chi fod yna un unigryw wedi cael ei ddarganfod ar Ynys Enlli, bron i ugain mlynedd yn ôl?

Image copyright Ian Sturrock

Yn 1998, daeth adarydd ar Ynys Enlli ar draws afalau nad oedd yn 'nabod eu math, yn tyfu ar goeden gam oedd yn dringo wal tŷ Plas Bach. Anfonodd sampl at Ian Sturrock, arbenigwr ffrwythau sy'n gweithio ger Bangor, a'i anfonodd at y National Fruit Collection yng Nghaint. Cafodd ei gofrestru fel coeden unigryw - yr unig un o'i math yn y byd.

Penderfynodd Ian Sturrock fod angen sicrhau nad oedd hwn yn cael ei golli, ac fe gymerodd doriadau o'r goeden er mwyn eu plannu ar y tir mawr:

"Mae Afal Enlli rwan yn ddiogel. Unwaith i'r arbenigwyr gyhoeddi ei fod yn unigryw, nes i ddechrau cynhyrchu coed o'r toriadau o'r ynys, ac mae'r math arbennig yma wedi tyfu mewn poblogrwydd. Bellach mae yn stoc yn rhan fwyaf o blanhigfeydd Cymru a Lloegr, ac mae hyd yn oed yn cael ei werthu yn UDA. Mae'n afal da, blasus - pinc i ddechrau, cyn aeddfedu yn gochach - ac nid yw'n rhy felys. Mae'n gwneud sudd afal da, ac mae hyd yn oed sôn am wneud seidr efo fo hefyd.

Image copyright Ian Sturrock
Image caption Meibion Ian, Siôn a JoJo, gyda'r goeden wreiddiol ym Mhlas Bach, Ynys Enlli

"Mae'n hawdd i'w dyfu ar y tir mawr ac mae'n gallu gwrthsefyll afiechydon - rheswm arall am ei lwyddiant. Ond mae'n siŵr mai'r prif reswm yw fod y stori tu ôl i'r darganfyddiad, a rhamant yr ynys, mor ddeniadol.

"Dwi'n mynd yn ôl i'r ynys bob hyn a hyn i gynnal a chadw'r goeden. Mae hi'n tyfu mewn encil ar ochr y tŷ, felly mae'n cael 'chydig o gysgod - ond mae wedi cael ei siapio gan y gwynt a'r ewyn hallt o'r môr i siâp gwyntyll. Gan ei fod wedi gallu goroesi mewn awyrgylch mor galed dros gymaint o flynyddoedd, mae'n dangos ei fod yn wydn. Os ti'n dod ar draws hen goeden, tua 120 oed, sy'n dal i dyfu afalau, rhaid ei fod yn fath da."

Mae 'na nifer o theorïau gwahanol wedi cael eu cynnig dros y blynyddoedd ynglŷn â sut daeth y goeden yno yn y lle cyntaf. Ydy o wedi bod yno ers oes yr 'ugain mil o seintiau'? Roedd un ddynes a gafodd ei magu ar yr ynys yn credu efallai ei fod wedi dod o'r Eidal, gan fod yr Arglwydd Niwbwrch wedi priodi Eidales, Stella. Wrth gwrs, theori arall yw fod calon yr afal wedi cael ei daflu oddi ar long, a'i fod wedi arnofio i'r lan.

Mae Ian o'r gred mai hadyn gafodd ei blannu yn fwriadol ydy o, oherwydd ei leoliad, yn union yng nghanol yr encil ar ochr y tŷ. Ond yn sicr, mae wedi bod yno ers rhai blynyddoedd bellach, ond ei fod erioed wedi cael fawr o sylw tan i Andy Clarke, yr adarydd, ddangos diddordeb ynddo.

Ffrwythau yn ffynnu

O ganlyniad i ymddangosiad Afal Enlli, mae mwy o ddiddordeb wedi bod yn yr hen ffrwythau cynhenid yng Nghymru, meddai Ian.

"Dwi'n parhau i chwilio am fathau newydd o afalau a ffrwythau, neu fathau sydd wedi cael eu anghofio. Roedd yna'n arfer bod lawer o fathau gwahanol o afalau Cymreig. Yn y Cambrian Journal, sy'n dyddio o 1856, mae yna ryw 200 o fathau gwahanol ond dwi ond wedi dod o hyd i un o'r rheiny.

Dros amser, cafodd popeth eu safoni, a daeth mathau newydd o Loegr a chymryd lle yr hen fathau cynhenid. Mae pobl yn anfon samplau ata i i mi gael edrych arnyn nhw, ac mae profion geneteg y dyddiau yma yn gallu profi yn sydyn iawn o ble yn union y daw'r ffrwyth.

"Yn anffodus mae nifer, mae'n siŵr, wedi cael eu colli am byth erbyn hyn. Mae Gwsberan Sir Fflint yn ymddangos fel 'tasai wedi diflannu am byth - dwi 'di bod yn chwilio amdano ers rhyw 20 mlynedd. Ac mae hefyd yn wir am lysiau - mae dau fath o datws o Ben Llŷn o'n i'n eithaf agos at eu cael, ond wedi eu colli, dwi'n meddwl."

Ond mae Ian wedi llwyddo i ailgyflwyno Eirninen Dinbych am y tro cyntaf ers 100 mlynedd, ac mae ar fin cael statws PGI (Protected Geographic Indication). "Y gobaith yw, wrth i boblogrwydd y ffrwyth a'r galw amdano dyfu, bydd hyn yn creu mwy o swyddi wrth i'r perllannoedd ehangu. Byddai'n wych 'tasai'n gallu cael ei werthu mewn archfarchnadoedd rhyw ddydd."

Hen draddodiad coll

Roedd gogledd Cymru yn lle oedd yn tyfu llawer o afalau, ond mae'r traddodiad wedi gwanhau bellach. Yn anffodus, does yna ddim llenyddiaeth am y mathau o afalau fyddai'n tyfu yn dda yng Nghymru - maen nhw wedi cael eu hysgrifennu gan bobl o Loegr. Felly mae'r holl wybodaeth a thraddodiadau wedi diflannu, meddai Ian.

Image caption Mae coeden Afal Enlli yn tyfu'n dda ar y tir mawr

"Tydi pobl ddim yn sylweddoli fod angen gwybod beth yw'r afal cyn i chi allu gwybod beth i'w wneud â nhw. Mae mathau gwahanol o afalau angen cael eu pigo adegau gwahanol y flwyddyn, a rhai angen cael eu storio am 'chydig o fisoedd cyn eu bwyta, er mwyn cael y gorau ohonyn nhw. Neu mae ffyrdd gwahanol o dyfu coed gwahanol.

"Mae 'na gymaint o wybodaeth sydd ddim wedi cael ei sgrifennu lawr ac wedi cael ei golli. Dwi'n gobeithio y bydd y diddordeb diweddar sydd yn y maes yn golygu y bydd yr hen draddodiad yn gallu cael ei adfywio yma yng Nghymru, a'i gadw."

Pynciau Cysylltiedig