'Pryder' bod gan ysgolion 28% yn llai o arian wrth gefn

stafell ddosbarth

Dylai'r cwymp o 28% yn yr arian sydd gan ysgolion Cymru wrth gefn "fod yn achos pryder", yn ôl undeb dysgu.

Mae adroddiad newydd yn dangos bod gan ysgolion gyfanswm o £46m wrth gefn, sydd gyfystyr â £102 i bob disgybl - cwymp o'r cyfanswm o £64m yn 2016.

Dywedodd NAHT Cymru bod ysgolion yn defnyddio'r arian i "lenwi bylchau" sy'n ymddangos yn sgil toriadau.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi "herio" cynghorau i sicrhau bod ysgolion yn gwneud defnydd da o'r arian sydd ganddyn nhw wrth gefn.

Ynys Môn â mwy

Llynedd fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams ei bod wedi cael "sioc" o glywed pa mor fawr yw'r symiau o arian wrth gefn gan rai ysgolion.

Awgrymodd bod yr amser wedi dod i ysgolion ddefnyddio'r arian.

Nid yw'r adroddiad newydd gan Llywodraeth Cymru yn manylu ar beth mae'r ysgolion wedi gwario'r arian, ond roedd cynghorau wedi dweud y gallai'r arian ond gael ei wario ar adnoddau ychwanegol, staff neu gynlluniau cyfalaf.

Yn ôl yr adroddiad roedd £40m, neu 88%, o'r arian wrth gefn gan ysgolion cynradd.

Roedd y lefel uchaf o arian i bob disgybl yn Ynys Môn - £223 y pen - a'r isaf yn Sir Ddinbych, sydd â diffyg o £70 am bob disgybl.

Image caption Llynedd fe ddywedodd Kirsty Williams ei bod wedi synnu faint o arian wrth gefn oedd gan rai ysgolion

Dywedodd llefarydd ar ran NAHT Cymru bod ysgolion weithiau'n adeiladu cronfeydd o arian wrth gefn ar gyfer cynlluniau mawr na fyddai'n bosib i gynghorau eu cefnogi.

Ond ychwanegodd: "Dylai'r ffaith bod y cyfanswm wedi cwympo o bron i 30% mewn blwyddyn fod yn achos pryder.

"Mae'n awgrymu bod ysgolion yn gorfod defnyddio arian wrth gefn i lenwi bylchau mewn cyllidebau sylfaenol.

"Mae hynny'n sefyllfa anghynaladwy ac mae'n cadarnhau na all ein galwad am gyllid digonol, teg a thryloyw gael ei hanwybyddu bellach."

'Darlun cymysg'

Yn ôl Cyngor Môn, mae sicrhau bod gan ysgolion arian "digonol" wrth gefn yn arfer o "reoli ariannol call".

"Mae'r awdurdod yn ymwybodol fod gan ysgolion cynradd Ynys Môn y lefel uchaf o arian wrth gefn i bob disgybl, ac wedi bod yn gweithio gydag ysgolion a byrddau llywodraethol er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o'r arian wrth gefn sydd yno," meddai llefarydd.

"Wrth i'r pwysau ar gyllidebau llywodraeth leol gynyddu, bydd cyllidebau ysgolion yn siŵr o ostwng mewn termau real ac rydyn yn disgwyl i'r arian sydd wrth gefn gan ysgolion ostwng dros y ddwy i dair blynedd nesaf."

Image caption Yn ôl Darren Millar, dylai'r llywodraeth ystyried "creu model ariannu tecach" i ysgolion

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg bod y sefyllfa yn "enbyd".

"Mae'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr o ran gwariant y pen ar ddisgyblion wedi cynyddu i £607 ers 2001, felly dydy hi ddim yn syndod bod ysgolion yn fwyfwy dibynnol ar gronfeydd wrth gefn," meddai Darren Millar AC.

"Dylai hyn fod yn rhybudd i'r ysgrifennydd addysg, ddylai nawr ddefnyddio'r grymoedd datganoledig sydd ganddi i greu model ariannu tecach a mwy uniongyrchol.

"Fydd system ysgolion Cymru ddim yn symud o waelodion y rhestrau rhyngwladol os nad oes ganddi ddigon o adnoddau i wella."

'Gweithio gyda chynghorau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod cyfanswm yr arian wrth gefn wedi lleihau, a bod rhai ysgolion yn gwneud defnydd da o'u harian, mae'r darlun yn parhau yn gymysg.

"Byddwn yn gweithio gyda chynghorau dros y misoedd nesaf i weld sut allwn ni sicrhau bod pob ysgol yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.

"Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnig amddiffyniad i ysgolion. Mae hynny'n cynnwys blaenoriaethu £170m dros ddwy flynedd i sicrhau bod llywodraeth leol yn gallu diogelu gwasanaethau rheng flaen, a £40m o arian ychwanegol i gynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a cholegau newydd."

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych wedi cael cais i wneud sylw.

Pynciau Cysylltiedig