Rhybudd am draffig ar gylchfan brysur yng Nghaerdydd

Croes Cwrlwys Image copyright Google

Mae gyrwyr wedi cael eu rhybuddio i ddisgwyl mwy draffig na'r arfer wrth i waith ddechrau i roi wyneb newydd ar gylchfan brysur ar gyrion Caerdydd.

Dechreuodd y gwaith ar gylchfan Croes Cwrlwys am 20:00 nos Sul, a dywedodd Cyngor Caerdydd y bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar y gylchfan rhwng 20:00 a 06:00 pob diwrnod tan dydd Iau.

Yn ystod yr amseroedd hyn bydd rhai ffyrdd ar gau, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio.

Wedi i Groes Cwrlwys gael ei gwblhau, bydd y gwaith yn dechrau ar hyd yr A48 o'r gylchfan i Tumble Hill.

Fe fydd y gwaith yno'n cael ei wneud dros nos rhwng 29 Hydref a 3 Tachwedd.

Bydd wyneb newydd yn cael ei roi ar gyfanswm o 6,400 metr sgwâr o'r ffordd fel rhan o'r prosiect.

Pynciau Cysylltiedig