Rhun ap Iorwerth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Plaid Cymru 'dan warchae' mewn etholiad 'heriol'

20 Hydref 2017 Diweddarwyd 15:41 BST

Mae un o ffigyrau blaenllaw Plaid Cymru wedi cyfadde' i'r blaid deimlo "dan warchae" mewn etholiad cyffredinol "heriol".

Roedd Rhun ap Iorwerth yn siarad wrth i'r ffyddloniaid ddod ynghyd yng Nghaernarfon ar gyfer cynhadledd y blaid.

Mae'r arweinydd, Leanne Wood, yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw "ennill ffydd" pleidleiswyr.