Cwpan Her Ewrop: Toulouse 15-17 Gleision

Tomos Williams Image copyright Huw Evans picture agency

Fe wnaeth y Gleision drechu Toulouse yn ne Ffrainc nos Wener i sicrhau dwy fuddugoliaeth yn olynol yn eu grŵp yng Nghwpan Her Ewrop.

Sgoriodd Nick Williams gais i roi'r Cymry ar y blaen cyn i Romain Ntamack ac Antoine Dupont roi'r fantais i'r tîm cartref ar yr hanner.

Fe wnaeth cais Macauley Cook roi'r ymwelwyr yn ôl ar y blaen ar ôl 51 munud, ac ychwanegodd Jarrod Evans y trosiad.

Daeth Toulouse yn ôl yn gryf yn hwyr yn y gêm i geisio cipio'r fuddugoliaeth ond fe lwyddodd amddiffyn 'styfnig y Gleision i'w hatal.

Pynciau Cysylltiedig