Medal aur i Lauren Williams

Lauren Williams Image copyright GB taekwando
Image caption Bradly Sinden, Lauren Williams a Mahama Cho gyda'u medalau yn y Grand Prix

Mae Lauren Williams yn bencampwraig Grand Prix Taekwondo y Byd, ar ôl ennill rownd derfynol y gystadleuaeth -67kg yn Llundain.

Fe drechodd Williams, 18, cyn bencampwraig iau y byd, Ruth Gbagbi 43-23 yn y ffeinal.

"Mae'n gystadleuaeth mor fawr, dwi ddim yn gwybod beth i'w ddweud" meddai ar ôl y fuddugoliaeth.

Yn ystod y Grand Prix dydd Sadwrn bydd y Gymraes Jade Jones yn cystadlu - y tro cyntaf iddi ymryson yn Llundain ers ennill medal aur yno yn gemau Olympaidd 2012.