Abertawe 1-2 Caerlŷr

swans Image copyright Reuters

Ar ôl diswyddo eu rheolwyr yn gynharach yn yr wythnos roedd Caerlŷr yn wrthwynebwyr peryglus - ac fe adawodd tîm Michael Appleton y Liberty gyda'r fuddugoliaeth.

Fe ddaeth yr ymwelwyr ar y blaen o ddwy gôl i ddim. Federico Fernandez yn rhwydo i'w gôl ei hun yn dilyn croesiad peryglus i'r cwrt cosbi ar ôl 25 munud.

Yna wedil 49 munud fe ddaeth yr ail gôl - Shinji Okazaki yn sgorio yn dilyn gwaith da gan Marc Albrighton.

O fewn pum munud roedd Abertawe wedi taro nôl - Alfie Mawson yn ergydio yn dilyn cic gornel.

Roedd hynny yn ddigon i 'sbarduno adfywiad gan Abertawe - ond roedd ail gôl y tu hwnt iddyn nhw y tro hwn.

Image copyright Reuters
Image caption Alfie Mawson yn sgorio i'r Elyrch