Casnewydd 1-1 Mansfield

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Fe ddaeth yr eilydd Shawn McCoulsky o'r fainc i achub pwynt i Gasnewydd 20 munud cyn diwedd y gêm.

Sgoriodd y chwaraewyr 20 oed, sydd ar fenthyg o Bristol City, foli yn dilyn tafliad hir gan Ben Tozer.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl - Danny Rose yn sgorio ar ôl peniad gan Kane Hemmings.

Mae Casnewydd yn y chweched safle yn yr ail adran.