Dagenham & Redbridge 0-1 Wrecsam

Image copyright Rex Features
Image caption Kevin Lokko yn cael ei ddanfon o'r cae

Mae Wrecsam wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl buddugoliaeth hwyr yn Dagenham & Redbridge.

Rhwydodd Craig Robertson i'w gôl ei hun yn yr eiliadau olaf.

Roedd hi'n ddiwrnod diflas i'r tîm cartref ar ôl i Kevin Lokko gael cerdyn coch ar ôl tacl beryglus ar Mark Carrington.