Bachgen 17 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Rhymni

Moriah Street Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y ddamwain ar Stryd Moriah yn y Rhymni am 03:30 fore Sul

Mae heddlu'r de wedi cadarnhau fod bachgen 17 oed wedi marw yn yr ysbyty yn dilyn damwain car yn Rhymni yn Sir Caerffili yn gynnar fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Moriah yn Rhymni am 03:30 fore Sul, lle cafodd gyrrwr a theithiwr car Peugeot oren eu darganfod mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty'r Tywysog Phillip ym Merthyr Tudful i gael triniaeth, ond mae'r gyrrwr 17 oed bellach wedi marw.

Mae swyddogion yr heddlu yn cynorthwyo teulu'r bachgen.

Mae'r teithiwr arall yn dal i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar i unrhyw un a welodd y cerbyd tua'r adeg yma o'r bore, neu a welodd y ddamwain, i gysylltu â nhw.