Bachgen 17 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mlaendulais

Teyrngedau
Image caption Mae teyrngedau wedi cael eu gadael ger lleoliad y ddamwain yn Mlaendulais

Mae bachgen 17 oed wedi cael ei ladd mewn damwain car yng Nghwm Dulais.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Stryd yr Eglwys ym Mlaendulais am 03:45 fore Sul yn dilyn adroddiadau fod car mini coch wedi bod mewn damwain.

Cafodd dau o griwiau'r frigad dân o Flaendulais a Abercrâf eu galw i gynorthwyo.

Fe gadarnhaodd Heddlu'r De fod bachgen 17 oed oedd yn y car wedi marw, ac maen nhw'n cynnal ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe fyddai swyddogion yn hoffi siarad gydag unrhyw a welodd y ddamwain, neu a welodd y car yn cael ei yrru ychydig cyn y ddamwain."