Cymry'r Chwyldro

lenin

Mae'n ganrif ers un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes modern y byd ac roedd 'na unigolion o dras Cymreig chwaraeodd ran allweddol yn y cyfnod yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917,

Gyda'r Rhyfel Mawr yn dal ar ei anterth roedd hi'n flwyddyn gythryblus yn Rwsia a miliynau o bobl yn newynu. Yn dilyn chwyldro ym mis Mawrth cafodd llywodraeth dros dro ei sefydlu i ddisodli Tsar Nicholas II.

Roedd 'na chwyldro pellach ym mis Hydref pan gafodd sylfeini'r Undeb Sofietaidd eu gosod. Ond beth oedd rôl y Cymry wrth i Lenin a Stalin siapio un o gyfundrefnau mwyaf nerthol y byd?


Syr John Hanbury-Williams

Roedd John Hanbury-Williams yn dod o'r Fenni a chafodd ei fagu ym mhlasty Coldbrook Park ger y dref. Aeth i ysgol fonedd yn Berkshire cyn mynd 'mlaen i ysgol filwrol Sandhurst.

Wedi ei amser yn Sandhurst ymunodd Hanbury-Williams â'r fyddin yn 1878 ac aeth ymlaen i ymladd yn yr Aifft ac yna yn Ne Affrica. Cafodd swyddi pwysig iawn gyda Llywodraeth Prydain tan iddo gael ei benodi fel cynrychiolydd Prydain ar fwrdd Stavka Rwsia (bwrdd rheoli lluoedd arfog yr ymerodraeth) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Hanbury-Williams yn cydweithio gyda Tsar Nicholas II, ac fe ysgrifennodd lyfr The Emperor Nicholas II, as I knew him.

Cafodd Hanbury-Williams bedwar o blant, gan gynnwys Syr John Coldbrook Hanbury-Williams (1892-1965), a oedd yn ddyn busnes a aeth 'mlaen i fod yn gyfarwyddwr Banc Lloegr. Cafodd mab arall iddo, Charles Ferdinand Reiss Hanbury-Williams, ei ladd yn 1916 tra'n y lluoedd arfog.

Bu farw John Hanbury-Williams yn Llundain yn 1946, ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 87.

Image copyright Wikipedia
Image caption Syr John Hanbury-Williams gyda gohebydd o'r New York Times, Stanley Washburn, yn Rwsia, 1914

Albert Rhys Williams

Cafodd Albert Rhys Williams ei eni yn Ohio yn 1883, ond roedd ei rieni, David Thomas Williams ac Esther Rees, wedi mudo i'r Unol Daleithiau o Gymru. Roedd Rhys (fel oedd yn cael ei alw) yn weinidog, newyddiadurwr ac yn awdur.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn gohebu ar ran y New York Post, gan dreulio llawer o amser gyda byddin yr Almaen a Gwlad Belg. Ond ym mis Chwefror 1917 aeth i Rwsia i adrodd hanes y chwyldro ac roedd yno tan ddiwedd 1918.

Yn ystod ei amser yn Rwsia fe gydweithiodd Williams yn agos gyda Lenin a rhai o'r Bolsieficiaid mwyaf blaenllaw. Trefnodd frigâd ryngwladol i gefnogi Leon Trotsky a'r Fyddin Goch yn y Rhyfel Cartref a ddaeth wedi'r chwyldro.

Yn 1919 fe ysgrifennodd y llyfr Lenin: The Man and His Work a bu'n ysgrifennu yn helaeth ar y pwnc. Dychwelodd i'r Undeb Sofietaidd newydd yn 1922 gan aros yna tan 1928.

Roedd Williams yn gefnogol o achos Sosialwyr ledled y byd, ac aeth i Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref ar ddiwedd y 1930au. Ymwelodd â Rwsia am y tro olaf yn 1959. Roedd yn gefnogol o'r Undeb Sofietaidd tan ei ddyddiau olaf yn Efrog Newydd, lle bu farw yn 1962.

Image copyright Getty Images
Image caption Bolsieficaid yn protestio yn y sgwar o flaen Palas y Gaeaf (The Winter Palace) yn Petrograd, 1917

Gareth Jones

Roedd Gareth Richard Vaughan Jones yn Gymro Cymraeg o'r Barri ym Mro Morgannwg. Ei daid oedd John Hughes, y diwydiannydd o Ferthyr a sefydlodd un o ddinasoedd mwyaf Wcráin, Hughesovka (bellach yn Donetsk).

Roedd Jones yn dipyn o ieithydd ac yn gwbl rugl yn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg. Cafodd swydd fel arbenigwr yn y Swyddfa Materion Tramor lle'r oedd yn cynghori'r Prif Weinidog ar y pryd, David Lloyd George.

Aeth Jones i'r Almaen yn 1933 tra'n gweithio i'r Western Mail, ac ef oedd y newyddiadurwr cyntaf i hedfan yn yr un awyren ag Adolf Hitler a Joseph Goebbels pan oedd y Natsïaid newydd ddechrau eu teyrnasiad.

Teithiodd Jones o amgylch yr Undeb Sofietaidd cyn ymweld â Wcráin. Yno fe welodd bod y werin bobl yn dioddef yn ofnadwy, a bod Stalin wedi gadael i newyn ffynnu yno'n bwrpasol. Pan adroddodd yr hanes mewn datganiad i'r wasg fe deithiodd y newyddion ar hyd y byd, gan godi cywilydd ar Stalin.

Gan ei fod wedi ei wahardd o Rwsia teithiodd Jones i'r Dwyrain Pell yn 1935, gan ymweld â Japan, China a Mongolia. Ond yng ngogledd ddwyrain China yn Awst 1935 cafodd Jones ei saethu'n farw, diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 30 oed.

Yn ôl adroddiadau o'r cyfnod mae'n debyg cafodd ei ladd gan giang a oedd yn mynnu arian ganddo yn gyfnewid am ei ryddhau. Mae eraill sy'n credu mai heddlu cudd Rwsia a oedd yn gyfrifol, ac am ei ladd i ddial am ddod a thrychinebau Stalin i sylw'r byd.

Image caption Mae plac arbennig i Gareth Jones yn adeilad Yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn Cymraeg, Saesneg ac Wcraneg. Dywedodd llysgennad Wcráin i'r DU fod Jones yn un o "arwyr tawel" Wcráin

Joseph E. Davies

Roedd Joseph Edward Davies yn gyfreithiwr ac yn ddiplomydd adnabyddus a gafodd ei eni yn Wisconsin. Ond roedd ei rieni yn Gymry a oedd wedi mudo i'r Unol Daleithiau o Ynys Môn (ei fam) a Dregaron (ei dad). Roedd ei fam yn enwog o'i henw barddol 'Rachel o Fôn', a hi oedd y ddynes gyntaf i gael ei hordeinio yn Wisconsin.

Roedd Davies yn ffigwr amlwg yn llywodraeth Woodrow Wilson ac roedd yn teithio'r byd yn cynrychioli llywodraeth yr Unol Daleithiau. Cafodd ei benodi yn Llysgennad i'r Undeb Sofietaidd yn 1936, ac ar y cyfan roedd yn creu darlun positif o'r wlad.

Wedi cyfnod yn llysgennad yng Ngwlad Belg a Lwcsembwrg fe sgwennodd Davies lyfr yn 1941, Mission to Moscow, a oedd yn hynod boblogaidd ar draws y byd. Yn 1943 aeth Davies ar daith arall i Moscow gan roi negeseuon cyfrinachol i Joseph Stalin.

Wedi iddo ymddeol roedd Davies yn byw yn 'Tregaron', ei blasty mawr ar gyrion Washington DC, sydd bellach yn barc gwarchodaeth. Bu farw yno yn 1958 yn 81 oed.

Image copyright Getty Images
Image caption Joseph E. Davies yn ysgwyd llaw Joseph Stalin yn Moscow, 1943