Dyn yn gwadu llofruddio mam i ddau yn nhref Dinbych

Laura Stuart Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Roedd Laura Stuart yn fam i ddau ac yn dod o Ddinbych

Mae dyn 27 oed wedi gwadu llofruddio dynes yn Ninbych.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun fe blediodd Jason Liam Cooper yn ddieuog i lofruddio Laura Jayne Stuart.

Bu farw Ms Stuart, oedd yn fam i ddau ac yn 33 oed, yn dilyn digwyddiad yng nghanol y dref ym mis Ebrill.

Mae Mr Cooper hefyd yn gwadu cyhuddiad o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn arall, David Roberts.

Clywodd y gwrandawiad fod disgwyl i'r achos llys gychwyn ar 19 Chwefror, gyda gwrandawiad cyn achos ym mis Ionawr.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol