Gwarchod arfordir yn 'fatero o ddiogelwch cenedlaethol'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Amddiffynfeydd: Galw am 'ddigolledu' cynghorau arfordirol

23 Hydref 2017 Diweddarwyd 19:50 BST

Mae arweinydd Cyngor Ceredigion yn cwestiynu a ydy cynghorau mewn ardaloedd arfordirol yn cael eu "digolledu'n iawn" am y gwaith ar amddiffynfeydd rhag y môr.

Cafodd tref Aberystwyth, sydd yn y sir, ei tharo'n galed gan Storm Brian dros y penwythnos.

Dywedodd Ellen ap Gwynn nad oes arian ar gael i wella'r amddiffynfeydd yno "tan ar ôl Ebrill 2019".