Cyhoeddi enw bachgen, 17, fu farw mewn gwrthdrawiad

jordan charles Image copyright Llun teulu

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw bachgen 17 oed gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Rhymni, Sir Caerffili dros y penwythnos.

Bu farw Jordan Charles, oedd yn dod o'r dref, yn y gwrthdrawiad ar Stryd Moriah fore ddydd Sul am tua 03:30.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Peugeot 206 lliw oren a char oedd wedi parcio.

Mae merch leol 15 oed oedd hefyd yn teithio yn y car bellach wedi ei rhyddhau o'r ysbyty.

Mae teulu Jordan Charles, sydd yn cael eu cynorthwyo gan swyddogion arbenigol, bellach wedi rhyddhau teyrnged.

"Roedd Jordan yn fachgen oedd yn hoffi cymdeithasu ac wedi gwneud llawer wrth iddo fyw ei fywyd byr i'r eithaf. Mae ei deulu yn gofyn i gael eu gadael i alaru gyda'i gilydd fel teulu ar hyn o bryd."

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Straeon perthnasol