Cylch Haearn Fflint: Swyddogion wedi rhagweld ymateb cryf

Y 'cylch'

Cafodd yr ymateb negyddol posib i gerflun y Cylch Haearn yn Y Fflint ei drafod gan swyddogion cyn dadorchuddio'r dyluniad i'r cyhoedd, yn ôl e-byst sydd wedi eu gweld gan Blaid Cymru.

Mae'r blaid yn honni i'r negeseuon ddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwybod y byddai'r gwaith celf ger castell y dref yn cael ei weld fel symbol o orthrwm Lloegr dros Gymru.

Daeth yr e-byst i law Plaid Cymru wedi cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi parhau gyda'r cynllun oherwydd y teimladau cryf amdano.

'Cadarnhad neu ddathliad'

Cafodd y cynlluniau i osod y cerflun eu galw'n "sarhad ar y genedl" wedi'r cyhoeddiad ym mis Gorffennaf.

Ym mis Medi, cadarnhaodd y llywodraeth na fyddai'r cerflun yn cael ei osod wedi'r cyfan.

Mae'r e-byst, gafodd eu gyrru ym mis Mai, yn dangos drafft o ddogfen cynghori i Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, oedd yn dyfynnu o'r cais gwreiddiol gan yr artist.

Mae'n dweud bod Castell Y Fflint oedd y cyntaf o'r "cylch haearn hanesyddol gafodd ei adeiladu gan Edward I i atal gwrthryfeloedd Cymreig", a bod y cerflun yn cynrychioli'r "berthynas agos rhwng brenhiniaethau canol oesol Ewrop a'r cestyll gafodd eu hadeiladu".

Nid yw'n glir a gafodd y neges ei newid cyn cael ei anfon at Mr Skates.

Image copyright Geograph/Mike Searle
Image caption Mae Castell Y Fflint - heb y cerflun - yn denu tua 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn

Mewn e-bost arall, mae swyddog yn nodi: "Nodaf y byddwn yn dathlu ataliad pobl Cymru gan y Brenin Edward I gyda'r celf yma."

Yn dilyn y sylw, mae swyddog arall yn dweud bod cestyll y cylch haearn hanesyddol wedi eu defnyddio "i roi diwedd ar obeithion y Cymry am annibyniaeth o Loegr unwaith ac am byth".

Ychwanegodd: "Felly mewn ffordd gall rhai pobl weld y 'cylch haearn' fel rhyw fath o gadarnhad neu ddathliad o hynny."

Roedd y swyddog wedi cynnig "herio'r" safbwynt yna drwy ei wneud yn "fwy Celtaidd mewn rhyw ffordd drwy ddyluniad y cylch ei hun".

'Embaras i'r llywodraeth'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price: "Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y byddai hwn yn cael ei weld fel dathliad o orthrwm ar Gymru."

Galwodd ar Mr Skates i ymddiheuro, gan ychwanegu bod y cynllun yn "embaras i'r llywodraeth ac yn sarhad ar Gymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod bob cynnig ar gyfer y safle yn Y Fflint wedi eu hystyried gan banel cyn i argymhelliad gael ei wneud i'r gweinidog.

"Rydyn ni'n cydnabod cryfder y teimladau o amgylch y cynllun yma a dyna pam y gwnaethon ni weithredu i roi diwedd arno.

"Ein ffocws nawr yw gweithio gyda phobl leol a phartneriaid yn Y Fflint ar ddatblygiadau fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a thyfu economi'r dref, gyda chefnogaeth y gymuned leol."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol