Fferm yn dechrau godro defaid Llŷn i dorri tir newydd

Alan Parry Jones a'i fab yn godro'r defaid
Image caption Mae fferm Alan Parry Jones yn Chwilog yn torri tir newydd drwy odro defaid Llŷn yn benodol

Wrth i fwy o ffermwyr arallgyfeirio'r yn sgil y cynnydd yn ansicrwydd y byd amaeth, mae un fferm yn Eifionydd wedi chwilio am fwlch mwy unigryw yn y farchnad.

Er bod yna rai eraill yn godro defaid, fferm Derwen Gam yn Chwilog yw'r cynta' i odro defaid Llŷn yn benodol, gan werthu'r llefrith i gynhyrchydd caws ac iogwrt lleol.

Yng ngweddill Ewrop mae math arbennig o ddafad, sydd â phwrs mwy, yn cael ei bridio ar gyfer ei godro - ond roedd y teulu Jones yn awyddus i dorri eu cwys eu hunain.

'Siwtio'r hinsawdd'

"Defaid Llŷn dwi'n bwriadu'u godro i gyd, ma' nhw'n siwtio hinsawdd fama'n well," meddai'r ffermwr Alan Parry Jones.

"Dwi'm yn meddwl bod 'na neb arall yn godro defaid Llŷn. Mae 'na bris da i gael amdano fo.

"Mae o'n dda iawn i rai sy'n methu yfed llefrith buwch, pobl sy'n lactose intolerant. Ma' braster yn uwch ynddo fo, mae o'n fraster gwell i'r corff. Ac ma' modd ei rewi o hefyd, sy'n wahanol i lefrith buwch.

"Mae wedi bod yn mynd yn 'o dda, ambell i broblem fach ond dim byd mawr. Eu cynffonau nhw ydy'r peth mwya' peryg - ma' nhw fatha pastwn yn hitio rhywun wrth odro!

"Dwi isio cynhyrchu hyd at 450 yn y diwedd ac mae'r hogia' yn dechrau dangos diddordeb erbyn hyn hefyd.

"Rhywbeth iddyn nhw ydy o, d'eud gwir - dwi bron yn barod i ymddeol!"

Image caption Mae Alan Parry Jones a'r cynhyrchydd caws Carrie Rimes gyda'r defaid

Erbyn hyn mae'r fferm yn cyflenwi llefrith ar gyfer cwmni Cosyn o ardal Bethesda.

Roedd y cynhyrchydd caws Carrie Rimes wedi dod ar draws llefrith dafad tra'n gweithio dramor.

Dywedodd: "O'n i wedi dechrau gyda'r llaeth dafad ar rai o ffermydd Ffrainc a darganfod ei fod yn gwneud caws mor dda.

"Pan ddes i'n ôl a gofyn i siopau a delis be' oedd y bwlch yn y farchnad, roedd pob un yn dweud caws dafad. Wedyn o Gymru mae o wir yn gwneud sens!

"Ar y dechrau, roedd lot o bobl yn eitha' amheus am lefrith dafad. Ond rŵan, yn arbennig yn lleol, mae 'na fwy o gwsmeriaid yn dod yn ôl ac yn ôl. Mae rhai'n licio'r caws a rhai'n licio'r iogwrt."

'Meddwl am stori wahanol'

Fe gafodd Fferm Derwen Gam gefnogaeth cynllun Agrisgôp Cyswllt Ffermio, sy'n helpu amaethwyr i rannu syniadau a datblygu arbenigedd ymysg ei gilydd.

"Roeddan ni'n ymwybodol bod 'na ddiddordeb mewn godro defaid, felly mi benderfynon ni ddod â grŵp at ei gilydd o bobl oedd â diddordeb," meddai Geraint Hughes, Arweinydd Agrisgôp.

"Roedd hynny'n hwyluso'r broses o rwydweithio a dysgu o ran lle mae'r farchnad, be' sy' angen ei wneud i'w brosesu ac ati.

"Dyddiau cynnar ydy'r rhain a 'dan ni'n rhagweld 'falla bod y grŵp yma'n hedyn ar gyfer y dyfodol.

"Dwi'n meddwl bod 'na nifer cynyddol o ffermwyr yn cymryd y dyfodol i'w dwylo'u hunain a thrio datblygu mentrau yng nghefn gwlad a ffermydd. Ma' pobl yn trio bod yn wahanol.

"Y dyddiau yma mae'n anodd iawn bod yn gystadleuol o ran pris â ninna' mewn gwlad orllewinol, ac mae lot o'r ffermydd yn ffermydd teuluol bychain. Felly mae'n bwysig meddwl am stori wahanol ac am gynnyrch gwahanol."

Pynciau Cysylltiedig