Lle i Rhys Webb a phump heb gap yng ngharfan Cymru

Rhys Webb Image copyright Getty Images
Image caption Mae dyfodol Rhys Webb gyda Chymru yn y fantol os ydy'n symud i Ffrainc yn 2018

Mae Rhys Webb wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau prawf yr hydref, er na fydd o'n medru cynrychioli ei wlad pan fydd yn symud i glwb Toulon.

Mae pump o chwaraewyr sydd heb gael cap eto wedi eu cynnwys yn y garfan, gan gynnwys Sam Cross, Owen Watkin ac Hadleigh Parkes - fydd ond yn gymwys i chwarae'r gêm olaf oherwydd rheolau preswyl.

Y ddau arall sydd heb ennill cap eto yw Leon Brown ac Elliot Dee.

Ond does dim lle i Jamie Roberts, Luke Charteris, Scott Williams, Sam Davies na Scott Baldwin - gafodd ei frathu ar ei law gan lew yn Ne Affrica yn ddiweddar.

Awstralia, Seland Newydd, Georgia a De Affrica fydd yn herio Cymru yn Stadiwm Principality yn y gemau ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Mae nifer o chwaraewyr wedi eu galw'n ôl i'r garfan, yn cynnwys Rhys Priestland, Aaron Shingler, Josh Navidi a Rhys Patchell.

Mae Dan Lydiate hefyd wedi ei gynnwys am y tro cyntaf ers anafu ei ben-glin y llynedd.

Dyw Sam Warburton a Ross Moriarty heb eu cynnwys oherwydd anafiadau, yr un rheswm sy'n cadw George North a Gareth Anscombe allan o'r garfan hefyd.

Rheol newydd

Yn ôl rheolau newydd, ddaeth i rym yn gynharach y mis hwn, mae'n rhaid i chwaraewyr o glybiau tramor fod wedi ennill o leiaf 60 o gapiau i allu cael eu dewis i'r tîm cenedlaethol.

Mae gan Webb, fydd yn symud i Toulon o'r Gweilch yn 2018, 28 o gapiau.

Dywedodd Webb ei bod hi'n "warth" na chafodd wybod y byddai'r rheol yn newid cyn iddo arwyddo i'r clwb o Ffrainc.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr

Rob Evans, Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau, heb ei gapio), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Samson Lee (Scarlets), Kristian Dacey (Gleision), Elliot Dee (Dreigiau, heb ei gapio), Ken Owens, Jake Ball (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Seb Davies (Gleision), Cory Hill (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch, capten), Sam Cross (Gweilch, heb ei gapio), Taulupe Faletau (Caerfarddon), Dan Lydiate (Gweilch), Josh Navidi (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch).

Olwyr

Aled Davies, Gareth Davies (Scarlets), Rhys Webb, Dan Biggar (Gweilch), Rhys Patchell (Scarlets), Rhys Priestland (Caerfaddon), Owen Williams (Caerloyw), Jonathan Davies (Scarlets), Tyler Morgan (Dreigiau), Hadleigh Parkes (Scarlets, heb ei gapio), Owen Watkin (Gweilch, heb ei gapio), Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), Steffan Evans, Leigh Halfpenny (Scarlets), Liam Williams (Saracens).

Pynciau Cysylltiedig