Cyhoeddi manylion cyllideb Llywodraeth Cymru

Money Image copyright Getty Images

Mae manylion cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhoeddi, ac yn dangos cynnydd o £227m i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn 2018-19, gan ddod â chyfanswm gwariant ar iechyd i £6.85bn.

Mae'r dogfennau hefyd yn awgrymu pa doriadau fydd yn cael eu gwneud er mwyn talu am y cynnydd, gan gynnwys gostyngiad o £14.1m yn y grant i wella ysgolion yn 2018-19, a lleihad o £3m yn y grant blynyddol i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd costau staffio Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei gwtogi o £199m i £193m dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn y flwyddyn ganlynol - 2019-20 - bydd addysg ôl-16 oed yn wynebu toriad o bron £10m.

Benthyciadau

Bydd rhaid i drethdalwyr ddod o hyd i fwy na £24m dros dair blynedd i ad-dalu'r arian sy'n cael ei fenthyg ar gyfer cynlluniau sy'n cynnwys ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi clustnodi'r arian ad-dalu yn ei chynlluniau yn y gyllideb ddrafft.

Gyda phwerau newydd, gall gweinidogion Cymru fenthyg £125m yn 2018, a £150 bob blwyddyn ar ôl hynny hyd at gyfanswm o £1bn.

Yn ôl dogfennau'r gyllideb, mae cynllun yr M4, sydd ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad cyhoeddus, yn un allai elwa o fenthyciad.

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Darlun o sut gallai'r M4 edrych ger Casnewydd

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu benthyg £375m allan o £425m posib o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf, ond dywedodd swyddogion y bydd y swm sydd angen i'r llywodraeth ei fenthyg yn cael ei adolygu'n gyson.

Fe fydd yr arian i ad-dalu'r benthyciad yn dod o'r gyllideb refeniw sy'n talu am gostau dydd-i-ddydd o redeg gwasanaethau cyhoeddus.

Gobaith y llywodraeth yw ad-dalu'r cyfalaf dros gyfnod o 30 mlynedd, gan ddechrau gyda £0.6m yn 2018-19 ac yn codi i £6.9m erbyn 2020-21.

O gynnwys llog, bydd y ffigwr erbyn 2020-21 yn £13.7m.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd y pŵer i fenthyg hyd at £500m ar gyfer gwariant o ddydd-i-ddydd os fydd derbyniadau treth yn is na'r disgwyl, ond does dim cynlluniau gan weinidogion fanteisio ar y pŵer yma.

Cefnogaeth i'r digartref

Mae pryderon y bydd cefnogaeth ariannol i bobl fregus gyda'u cartrefi yn cael ei dorri hefyd, er gwaetha' addewidion i warchod yr arian.

Ni fydd cynllun Cefnogi Pobl - gwerth £125m - yn cael ei glustnodi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru yn 2019-20.

Bydd yr arian yn cael ei gyfuno gyda chronfeydd eraill, gan roi mwy o ryddid i gynghorau benderfynu sut i'w wario.

Ond mae ymgyrchwyr yn dweud y bydd hynny'n ei gwneud yn fwy anodd i ddal y llywodraeth i gyfrif.

Mae'r cynllun yn talu am bethau fel hostelau a gweithwyr cefnogaeth i bobl fregus, gan gynnwys y rhai sydd wedi diodde' trais yn y cartref neu'r rhai sy'n diodde' salwch cronig.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd gweinidogion na fyddai toriadau i'r grantiau fel rhan o gytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru.

Mae dogfennau a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn dangos y bydd yr un swm - £124.5m - wedi ei gynnwys yn y gyllideb, ond ni fydd bellach yn cael ei warchod i'r pwrpas.

Dywedodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru sy'n cynrychioli gwasanaethau i'r digartref, ei bod yn "gandryll".

"Rydym yn bryderus iawn bod yr arian yma, sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddigartrefedd a chefnogaeth yn ymwneud â chartrefi, wedi cael ei uno gyda sawl cynllun arall sydd ddim yn ymwneud ag atal digartrefedd," meddai.

"Mae'r penderfyniad yn rhyfedd a pheryglus mewn cyfnod lle mae ystadegau Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn dangos bod digartrefedd ar gynnydd ar draws Cymru."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol