'Dyw'r galar a'r boen byth yn lleihau'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Conner Marshall: 'Dyw'r galar a'r boen byth yn lleihau'

25 Hydref 2017 Diweddarwyd 06:29 BST

Mae'r darlun o Conner Marshall gydag anafiadau erchyll yn dal i beri poen i'w fam.

Dwy flynedd a hanner yn ôl, fe wnaeth ddyn ymosod ar Conner, oedd yn 18 oed, a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Cafodd y llofrudd David Braddon ei garcharu am oes ym mis Mehefin 2015.

Ond mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd Nadine Marshall bod "y galar a'r boen byth yn lleihau" yn dilyn marwolaeth ei mab.